Caniadau Buddug/Cenhadwr y Morwyr

Gwawr Caniadau Buddug
Caniadau
gan Catherine Prichard (Buddug)

Caniadau
Morwynig fach o'r Bala

CENHADWR Y MORWYR

(Caergybi)

NID anghofiodd awel Hydref
Wyro'r blodau mwyaf hardd,
Nid anghofiodd swn ei dolef
Alarnadu uwch yr ardd;
Cwympo'n drist ar ddaear galed,
Nid anghofiodd dail y coed,
Angau gyda'i farwol dynged,
Nid anghofiodd Capten Lloyd.

Nid anghofiodd tlysni natur,
Yn ei dymor harddu'r llawr,
Nid anghofiodd daenu cysur
Gyda'i wyrddlas gwrlid mawr.
Dyma wron nad anghofiodd
Gadw cyfraith Duw erioed,
Dyma'r rhinwedd beraroglodd
Lwybrau bywyd Capten Lloyd.

Pan fa'i gartref ar yr eigion,
Pan fa'i dŷ ar frig y donn,
Pan ynghanol grym peryglon,
Pawb o'i gylch yn brudd eu bron,
Nid anghofiodd y cyfleustra
I rybuddio, doed a ddoed,
Bwrdd ei long a droi'n areithfa
I godi Iesu Capten Lloyd.

Pan y gwgai yr elfennau,
Pan gymylai ar ei hynt,
Cadw'i was mewn cyfyngderau,
Nid anghofiodd Duw y gwynt;

Cledr llaw yr Hollalluog
Yw'r bywyd-fad sicra' 'rioed,
Taflu angor ffydd ddiysgog
Wnaeth yr anwyl Capten Lloyd.

Nid anghofia'r nodwydd bwyntio
Tua'r gogledd o bob man;
Ple mae'r morwr all anghofio
Gwylio'n ddyfal am y lan?
Dyma'r gwr a bwyntiodd gannoedd
Tua'r hafan oreu erioed,
Pwy anghofia tra bo moroedd
"Bethel Flag" y Capten Lloyd?

Nid anghofiodd fyw i farw,
Weithian cafodd farw i fyw;
Nid anghofia godi'n fore
"Ddydd y Farn" ar ddelw Duw:
Ar ei had y byddo'i ardeb,
Nac anghofiont ol ei droed;
Nid anghofia Anfarwoldeb
Gerfio enw Capten Lloyd.

Ni wna Barnwr byd anghofio
Sychu dagrau'r weddw brudd,
Nid anghofia engyl wylio
Tawel fan ei wely pridd;
Ni chadd Mynwent Dwyran gadw,
Yn ei mynwes glyd ni roed
Un hawddgarach, un oedd burach,
Na'r diweddar Capten Lloyd.