Caniadau Watcyn Wyn/Y Meddwyn

Trai a Llanw'r Môr Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Mae nhw'n d'weyd

Y MEDDWYN.

AR ei oreu'n gwario'i arian—o'i fodd
Mae'r hen feddwyn, druan;
Adyn moeth'! nid yw un man
Hapus ond wrth ei gwpan.


"Yfwn fyth," medd ef yn ei fost "gwrw
A gwirod"—dyma ymffrost!
Och! yr adyn ffol chwerwdost,
Heb un tâl ond ei ben tost!

Nodiadau golygu