Caniadau Watcyn Wyn/Y Wawr

Ffyddlondeb Crefyddol Caniadau Watcyn Wyn

gan Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn)

Gwlithyn

Y WAWR

FFRWD O wawl orlifa
Dros y traeth o sêr!
Gwreichion haul arweinia
Ei fawrhydi ter,
Gloewa'r mân belydrau,
Chwydda'r tònau tân!
Y boreu ddaw
O'r dwyrain draw,
Yn ddylif gloëw glân!

Nodiadau golygu