Hanes Brwydr Waterloo/Terfyniad Y Frwydr, A Dynesiad Y Prwssiaid

Yr Ymosodiad Ar Ganolbwynt Ein Byddin Hanes Brwydr Waterloo

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

TERFYNIAD Y FRWYDR, A DYNESIAD Y PRWSSIAID.

Yr oedd y fyddin Brydeinaidd wedi bod o dan dân y gelyn am yn agos i saith awr. Yr oedd mynediad y Prwssiaid yn mlaen yn cael ei atal, o ran trwy gyflwr y ffyrdd, y rhai oeddynt wedi dyfod bron yn annhramwyadwy; ac o ran trwy anewyllysgarwch y rhai hyny a orchfygesid yn Ligny, i ddyfod eilwaith i ymladd a'u gorchfygwyr. Diau fod ganddynt yn eu mynediad yn mlaen i ymwneyd ag anhawsderau mawrion, ac achosai eu magnelau trymion oediad mwy fyth; yr oeddynt yn suddo weithiau fodfeddi i'r llaid. Er holl ddysgyblaeth ymffrostgar y Prwssiaid, torai y dynion tros derfynau trefn a llywodraeth. Hyd yn nod wrth Blucher ei hun nid ymatalient rhag gwrth-achwyn. "Nis gallwn byth fyned yn mlaen," a glywid ar bob tu. "Rhaid i ni fyned yn mlaen," atebai Blucher, "yr wyf wedi rhoddi fy ngair i Wellington, ac ni oddefwch i mi ei dori; ymegnïwch eich hunain ychydig, fy mhlant i, a bydd y fuddugoliaeth yn eiddo i chwi."

Tua'r amser yma anfonwyd hysbysiad i Buonaparte fod y Prwssiaid yn dynesu, ond efe a ystyriai hyny yn chwedl ddisail, a dywedai nad oedd y Prwssiaid tybiedig yn ddim amgen na byddin Grouchy. Ond bu raid i Napoleon, pa fodd bynng, ymostwng i dystiolaeth, pan y canfu y rhai hyny yn dechreu ymsood ar ei aden ddehau; a gyrodd ran o'r nawfed dosparth o'i fyddin i'w gwrthsefyll

YMOSODIAD TERFYNOL WELLINGTON.

Yna Wellington a wnaeth ei ymosodiad mawreddus a phenderfynol, ac a ddygodd yn mlaen yr holl linell o wyr traed, y gwyr meirch, a'r cyflegrau, ac a fu lwyddiants yn mhob pwynt, nes gyru yr holl fyddin Ffrengig i annhrefn, a chael cyflawn fuddugoliaeth arnynt. Yn fuan ar ol hyn y Prwasiaid a ruthrasant ar y Ffrangcod, ac a'u hymlidissant drwy'r nos.

Dywedir i'r fyddin Frytanaidd, yn y frwydr byth-gofiadwy Waterloo, ragori hyd yn nod arnynt eu hunain yn eu gwrhydri dihafal; a phob llawryf a enillasent trwy eu buddugoliaethau blaenorol, y pryd hwn a daflwyd i'r pentwr, ac a wnaed yn un we anfarwol i addurno eu coffadwriaeth. Gwasgarwyd anrhegion i bob catrawd a phob milwr, a cherfiwyd y gair "Waterloo" ar holl fanerau y catrodau ag oeddynt yno. Cyfrifwyd diwrnod y frwydr fel dwy flynedd o wasanaeth i'r rhai a leolwyd ar lechtros y pensioners. Rhoddwyd medalau i bawb o'r gwroniaid ag oedd wedi sefyll tân y frwydr hon, yn goffawdwriaeth am y diwrnod; a phenderfynwyd fod medal y Swyddog uwchaf i fod o'r un defnydd ag eiddo y milwr iselaf, fel y byddai i'r rhai oeddynt wedi cydgyfranogi o'r caledi a'r perygl, gydgyfranogi hefyd o'r un anrhydedd. Casglwyd gan fawrion y deymas £400,000 i gynorthwyo y clwyfedigion, ac hefyd weddwon ac amddifaid y rhai a laddwyd, heblaw yr hyn a ganiatai y Llywodraeth iddynt. Y Duc Wellington hefyd a roddodd i fyny, ir perwyl hyny, haner yr iawn seneddol oedd yn dygwydd iddo am y meddiannau a gymerasid oddiar y gelyn y rhyfeloedd yn Yspaen a Phortugal. Cyflwynwyd diolchgarwch y senedd-dal i'r Duc, a chymeradwywyd fod £200,000 i gael eu rhoddi iddo, yn ychwanegol at yr hyn a dderbyniasai o'r blaen, i'r dyben o brynu iddo etifeddiaeth Strathfieldsaye, yr hyn a wnaethpwyd.

Yn y rhyfelgyrch byr yma, yr hwn a derfynodd yn Waterloo, collodd y Ffrangcod o filwyr tua deugain mil; y Prwssiaid ddeunaw mil ar hugain; y Prydeiniaid, yr Hanoveriaid, a'r Belgiaid, dair mil ar hugain!! Am y deugain mil a gollodd Napoleon, ei wrthwynebwyr a gollasant driugain ac un o filoedd.

ALLTUDIAD A MARWOLAETH NAPOLEON.

Yr oedd gorchfygiad y Ffrangcod mor gyflawn fel yr oedd yn gwbl amhosibl casglu gweddillion y fyddin i encilio yn drefnus; felly Napoleon a brysurodd i Paris, ac a roddodd i fyny y goron yn ffafr ei fab, yr hwn oedd eto yn Awstria. A chan fod y Cynghreirwyr yn dynesu at Paris, barnwyd yn angenrheidiol i Napoleon adael Ffraingc; ac ar y 13eg o Orphenaf, rhoddodd ei hun i fyny i'r Cadben Maitland, o'r Bellerophon, ar yr amod y dygai efe ef i Loegr, a'i roddi at ewyllys y llywodraeth Brydeinaidd. Ar y 24ain o Orphenaf, daeth y llong i Torbay: ac ar yr 31ain mynegodd Syr H. Bunbury i Napoleon fod y weinidogaeth wedi penderfynu ei alltudio i St. Helena. Felly efe, a phedwar o'i ddylynwyr, meddyg Seisonig, a deuddeg o weision, a drosglwyddwyd i'r Northumberland, yr hon oedd yn cario baner y Llyngesydd Cockburn, a ghodasant hwyliau, ar y 7fed o Awst, am le eu caethiwed, a thiriasant yno ar yr 16 o Hydref, 1815.

Bu fyw yn St. (Helena[1]) am yn agos i bum' mlynedd; ond dechreuodd ei iechyd waethygu yn mis (---) 1817. Yn mis Mawrth, 1821, aeth ei afiechyd yn beryglus, ac y 6ed o Fai, (cymerodd ei) anadl olaf. Claddwyd ef yn St. Helena; ond yn y flwyddyn (1840 datgladdwyd ei) gorph, a dygwyd ef i Ffraingc i gael ei gladdu mewn rhwysg mawr. (Dyna) ddiwedd un a fu unwaith yn ddychryn i'r byd—yn codi ac yn dymchwelyd gorseddau wrth ei ewyllys, ac yn gosod rheolau a chyfreithiau i freninoedd a phenaduriaid y ddaear!

Nodiadau golygu

  1. Mae staen ar y dudalen yn gwneud rhannau o'r paragraff olaf yn annarllenadwy. Mae'r geiriau mewn cromfachau yn ymgais i ddyfalu be sy'n debygol o fod ar goll