Manawydan uab Llyr

Yn flaenorol: Branwen uerch Lyr
Yn nesaf: Math uab Mathonwy

Guedy daruot y'r seithwyr a dywedyssam ni uchot; cladu penn Bendigeiduran yn y Gwynuryn yn Llundein, a'y wyneb ar Freinc, edrych a wnaeth Manauydan ar y dref yn Llundein, ac ar y gedymdeithon, a dodi ucheneit uawr, a chymryt diruawr alar a hiraeth yndaw.

‘Oy a Duw Hollgyuoethawc, guae ui,’ heb ef, ‘nyt o es neb heb le idaw heno namyn mi.’ ‘Arglwyd,’ heb y Pryderi, ‘na uit kyn drymhet genhyt a hynny. Dy geuynderw yssyd urenhin yn Ynys y Kedyrn; a chyn gwnel gameu it,’ heb ef, ‘ny buost hawlwr tir a dayar ei ryoet. Trydyd lledyf unben wyt.’ ‘Ie,’ heb ef, ‘kyt boet keuynderw y mi y gwr hwnnw, goathrist yw genhyf i guelet neb yn lle Bendigeiduran uy mrawt, ac ny allaf uot yn llawen yn un ty ac ef.’ ‘A wney ditheu gynghor arall?’ heb y Pryderi. ‘Reit oed im wrth gynghor,’ heb ef, ‘a pha gynghor yw hwnnw?’ ‘Seith cantref Dyuet yr edewit y mi,’ heb y Pryderi, ‘a Riannon uy mam yssyd yno. Mi a rodaf it honno, a medyant y seith cantref genthi. A chyny bei itti o gyuoeth namyn y seith cantref hynny, nyt oes seith cantref well noc wy. Kicua, uerch Wyn Gloyw, yw uy gwreic inheu,’ heb ef. ‘A chyn bo enwedigaeth y kyuoeth y mi, bit y mwynant y ti a Riannon. A phei mynhut gyuoeth eiryoet, aduyd y caffut ti [waeth] hwnnw.’ ‘Na uynhaf, unben,’ heb ef, ‘Duw a dalo it dy gydymdeithas.’ ‘E gedymdeithas oreu a allwyf i, yti y byd, os mynny.’ ‘Mynnaf, eneit,’ heb ef. ‘Duw a dalo it. A mi a af gyt a thi y edrych Riannon, ac y edrych y kyuoeth.’ ‘Iawn a wney,’ heb ynteu. ‘Mi a debygaf na werendeweist eiryoet ar ymdidanwreic well no hi. Er amser y bu hitheu yn y dewred, ny bu wreic delediwach no hi, ac etwa ny bydy anuodlawn y phryt.’

Vynt a gerdassant racdunt. A pha hyt bynnac y bydynt ar y ford, wynt a doethant y Dyuet. Gwled darparedic oed udunt erbyn eu dyuot yn Arberth, a Riannon a Chicua wedy y harlwyaw.

Ac yna dechreu kydeisted ac ymdidan o Uanawydan a Riannon; ac o'r ymdidan tirioni a wnaeth y uryt a'y uedwl wrthi, a hoffi yn y uedwl na welsei eiryoed wreic digonach y theket a'y thelediwet no hi.

‘Pryderi,’ heb ef, ‘mi a uydaf wrth a dywedeisti.’ ‘Pa dywedwydat oed hwnnw?’ heb y Riannon. ‘Arglwydes,’ heb ef Pryderi, ‘mi a'th roessum yn wreic y Uanawydan uab Llyr.’ ‘A minheu a uydaf wrth hynny yn llawen,’ heb y Riannon. ‘Llawen yw genhyf inheu,’ heb y Manawydan, ‘a Duw a dalo y'r gwr yssyd yn rodi i minheu y gedymdeithas mor difleis a hynny’. Kyn daruot y wled honno, y kyscwyt genti.

‘Ar ny deryw o'r wled,’ heb y Pryderi, ‘treulwch chwi, a minheu a af y hebrwng uy gwrogaeth y Gaswallawn uab Beli hyt yn Lloegyr.’ ‘Arglwyd,’ heb y Riannon, ‘yg Kent y mae Caswallawn, a thi a elly treulaw y wled honn a'y arhos a uo nes.’ ‘Ninheu a'y arhown,’ heb ef. A'r wled honno a dreulyssant, a dechreu a wnaethant kylchaw Dyuet, a'y hela, a chymryt eu digriuwch.

Ac wrth rodyaw y wlat ny welsynt eiryoet wlat gyuanhedach no hi, na heldir well, nac amlach y mel na'y physcawt no hi. Ac yn hynny tyuu kedyrndeithas y rydunt yll pedwar, hyt na mynnei yr un uot heb y gilid na dyd na nos. Ac ymysc hynny, ef a aeth at Caswallawn hyt yn Rytychen, y hebrwng y wrogaeth idaw. A diruawr lywenyd a uu yn y erbyn yno, a diolwch idaw hebrwng y wrogaeth idaw. A guedy ymchwelut, kymryt eu gwledeu ac eu hesmwythder a orugant Pryderi a Manawydan.

A dechreu gwled a orugant yn Arberth, canys prif lys oed, ac o honei y dechreuit pob anryded. A guedy y bwyta kyntaf y nos honno, tra uei y gwassanaethwyr yn bwyta, kyuodi allan a orugant, a chyrchu Gorssed Arberth a wnaethant yll pedwar, ac yniuer gyt ac wynt. Ac ual y bydant yn eisted yuelly, llyma dwrwf, a chan ueint y twrwf, llyma gawat o nywl yn dyuot hyt na chanhoed yr un ohonunt wy y gilid. Ac yn ol y nywl, llyma yn goleuhau pob lle. A phan edrychyssant y ford y guelyn y preideu, a'r anreitheu, a'r kyuanhed kyn no hynny, ny welynt neb ryw dim, na thy, nac aniueil, na mwc, na than, na dyn, na chyuanhed, eithyr tei y llys yn wac, diffeith, anghyuanhed, heb dyn, heb uil yndunt * eu kedyrndeithon e hun wedy eu colli, heb wybot dim y wrthunt, onyt wyll pedwar.

‘Oy a Arglwyd Duw,’ heb y Manawydan, ‘mae yniuer y llys, ac yn anniuer ninheu namyn hynn? Awn y edrych.’ Dyuot y'r yneuad a wnaethant; nit oed neb. Kyrchu yr ystauell a'r hundy; ny welynt neb. Ymedgell, nac yg kegin, nit oed namyn diffeithwch.

Dechreu a wnaethant yll pedwar treulaw y wled, a hela a wnaethant, a chymryt eu digriuwch; a dechreu a wnaeth pob un o honunt rodyaw y wlat a'r kyuoeth y edrych a welynt ay ty ay kyuanhed; a neb ryw dim ny welynt eithyr guydlwdyn. A guedy treulaw eu gwled ac eu darmerth o honunt, dechreu a wnaethant ymborth ar kic hela, a physcawt, a bydaueu. Ac yuelly blwydyn a'r eil a dreulyssant yn digrif gantunt. Ac yn y diwed, dygyaw a wnaethant. ‘Dioer,’ heb y Manawydan, ‘ny bydwn ual hynn. Kyrchwn Loygyr, a cheisswn greft y cafom yn ymborth.’

Kyrchu Lloygyr a orugant, a dyuot hyt yn Henford, a chymryt arnunt gwneuthur kyfrwyeu. A dechreu a wnaeth ef Uanawydan llunyaw corueu, ac eu lliwaw ar y wed y guelsei gan Lassar Llaes Gygnwyt a chalch llassar, a gwneuthur calch lassar racdaw, ual y gwnathoed y gwr arall. Ac wrth hynny y gelwir etwa Calch Llassar, am y wneuthur o Lassar Llaes Gygnwyt. Ac o'r gueith hwnnw, tra geffit gan Uanawydan, ny phrynit gan gyfrwyd dros wyneb Henford, na choryf, na chyfrwy, ac yny adnabu pob un o'r kyfrwydyon y uot yn colli o'y henill, ac ny frynit dim ganthunt, onyt guedy na cheffit gan Uanawydan. Ac yn hynny, ymgynullaw y gyt o honunt, a duunaw ar y lad ef a'y gedymdeith. Ac yn hynny rybud a gawssont wynteu, a chymryt kynghor am adaw y dref.

‘E rof i a Duw,’ heb y Pryderi, ‘ni chynghoraf i adaw y dref, namyn llad y tayogeu racco.’ ‘Nac ef,’ heb y Manawydan, ‘bei ymladem ni ac wyntwy, clot drwc uydei arnam, ac yn carcharu a wneit. Ys guell in,’ heb ef, ‘kyrchu tref arall e ymossymdeithaw yndi.’

Ac yna kyrchu dinas arall a wnaethant yll pedwar. ‘Pa geluydyt,’ heb y Pryderi, ‘a gymerwn ni arnam?’ ‘Gwnawn taryaneu,’ heb y Manawydan. ‘A wdom ninheu dim y wrth hynny?’ heb y Pryderi. ‘Ni a'y prouwn,’ heb ynteu. Dechreu gwneuthur gueith y taryaneu, eu llunyaw ar weith taryaneu da welsynt, a dodi y lliw a dodyssynt ar y kyfrwyeu arnunt.

A'r gweith hwnnw a lwydwys racdunt, hyt na phrynit taryan yn yr holl dref, onyt guedy na cheffit ganthunt wy. Kyflym oed y gueith wynteu, a diuessur a wneynt ac yuelly y buant yny dygywys yw kytdrefwyr racdunt, ac yny duunyssant ar geissaw eu llad. Rybud a doeth udunt wynteu; a chlybot bot y gwyr ac y bryt ar eu dienydyaw.

‘Pryderi,’ heb y Manawydan, ‘y mae y gwyr hynn yn mynnu yn diuetha.’ ‘Ny chymerwn ninhei * y gan y tayogeu hynny. Awn adanunt a lladwn.’ ‘Nac ef,’ heb ynteu, ‘Casswallawn a glywei hynny, a'e wyr, a rewin uydem. Kyrchu tref arall a wnawn.’ Vynt a doethant y dref arall.

‘Pa geluydyt yd awni wrthi?’ heb y Manawydan. ‘Yr honn y mynnych, o'r a wdam,’ heb y Pryderi. ‘Nac ef,’ heb ynteu, ‘gwnawn grydyaeth. Ni byd o galhon gan grydyon nac ymlad a ni nac ymwarauun.’ ‘Ny wnn i dim y wrth honno,’ heb y Pryderi. ‘Mi a'y gwn,’ heb y Manawydan, ‘a mi a dyscaf it wniaw; ac nit ymyrrwn ar gyweiraw lledyr, namyn y brynu yn barawt, a gwneuthur yn gueith ohonaw.’ Ac yna dechreu prynu y cordwal teccaf a gauas yn y dref, ac amgen ledyr no hwnnw ny phrynei ef, eithyr lledyr guadneu. A dechreu a wnaeth ymgedymdeithassu a'r eurych goreu yn y dref, a pheri guaegeu y'r eskidyeu, ac euraw y guaegeu, a synnyaw e hun ar hynny yny gwybu. Ac o'r achaws hwnnw, y gelwit ef yn tryded eurgryd.

Tra geffit gantaw ef, nac eskit, na hossan, ny phrynit dim gan gryd yn yr holl dref. Sef a wnaeth y crydyon, adnabot bot eu hennill yn pallu udunt, canys ual y llunyei Uanawydan y gueith, y gwniei Pryderi. Dyuot y crydyon, a chymryt kynghor; sef a gausant yn eu kynghor, duunaw ar eu llad. ‘Pryderi,’ heb y Manawydan,’y mae y guyr yn mynnu an llad.’ ‘Pam y kymerwn ninheu * hynny gan y tayogeu lladron,’ heb y Pryderi, ‘namyn eu llad oll?’ ‘Nac ef,’ heb y Manawydan, ‘nyt ymladwn ac wynt, ac ny bydwn yn Lloygyr ballach. Kyrchwn parth a Dyuet, ac awn y hedrych.’

Byhyt bynnac y buant ar y fford, wynt a doethant y Dyuet, ac Arberth a gyrchyssant. A llad tan a wnaethant, a dechreu ymborth, a hela, a threulaw mis yuelly, a chynnull eu cwn attunt, a hela, a bot yuelly yno ulwydyn.

A boregueith, kyuodi Pryderi a Manawydan y hela; a chyweiraw eu cwn, a mynet odieithyr y llys. Sef a wnaeth rei o'e cwn, kerdet o'e blaen, a mynet y berth uechan oed gyr eu llaw. Ac y gyt ac yd aant y'r berth, kilyaw y gyflym, a cheginwrych mawr aruthyr ganthunt, ac ymchwelut at y guyr. ‘Nessawn,’ heb y Pryderi, ‘parth a'r berth, y edrych beth yssyd yndi.’ Nessau pirth a'r berth. Pan nessaant, llyma uaed coed claerwynn yn kyuodi o'r berth; sef a oruc y cwn, o hyder y guyr, ruthraw idaw. Sef a wnaeth ynteu, adaw y berth, a chilyaw dalym y wrth y guyr. Ac yny uei agos y guyr idaw, kyuarth a rodei y'r cwn, heb gilyaw yrdhunt a phan ynghei y guyr, y kilyei eilweith, ac y torrei gyuarth.

Ac yn ol y baed y kerdassant, yny welynt gaer uawr aruchel, a gueith newyd arnei, yn lle ny welsynt na maen, na gueith eiryoet; a'r baed yn kyrchu yr gaer yn uuan, a'r cwn yn y ol. A guedy mynet y baed a'r cwn y'r gaer, ryuedu a wnaethant welet y gaer yn y lle ny welsynt eiryoet weith kyn no hynny, ac o ben yr orssed edrych a wnaethant, ac ymwarandaw a'r cwn.

Pa hyt bynnac y bydynt yuelly, ny chlywynt un o'r cwn na dim y wrthunt. ‘Arglwyd,’ heb y Pryderi, ‘mi a af y'r gaer, y geissaw chwedleu y wrth y cwn.’ ‘Dioer,’ heb ynteu, ‘nyt da dy gynghor uynet y'r gaer, [Ny welsam ni y gaer] honn yma eiryoet. Ac o gwney uygkynghor i nyt ey idi. A'r neb a dodes hut ar y wlat, a beris bot y gaer yma.’ ‘Dioer,’ heb y Pryderi, ‘ny madeuaf i uyg kwn.’ Pa gynghor bynnac a gaffei ef y gan Uanawydan, y gaer a gyrchwys ef. Pan doeth y'r gaer, na dyn, na mil, na'r baed, na'r cwn, na thy, nac anhed, ny welei yn y gaer. Ef a welei, ual am gymherued llawr y gaer, fynnawn a gueith o uaen marmor yn y chylch. Ac ar lann y fynnawn, cawg [eur en rwymedic urth bedeir cadwyn, a hynny] uchbenn llech o uaen marmor, a'r cadwyneu * yn kyrchu yr awyr; a diben ny welei arnunt. Gorawenu a wnaeth ynteu wrth decket yr eur, a dahet gueith y cawc; a dyuot a wnaeth yn yd oed y cawc, ac ymauael ac ef. Ac y gyt ac yd ymeueil a'r cawc, glynu y dwylaw wrth y cawc, a'y draet wrth y llech yd oed yn seuyll arnei, a dwyn y lyueryd * y gantaw hyt na allei dywedut un geir. A seuyll a wnaeth yuelly.

A'e aros ynteu a wnaeth Manawydan hyt parth a diwed y dyd. A phrynhawn byrr, guedy bot yn diheu gantaw ef na chaei chwedleu y wrth Pryderi nac y wrth y cwn, dyuot a oruc parth a'r llys. Pan daw y mywn, sef a wnaeth Riannon, edrych arnaw. ‘Mae,’ heb hi, ‘dy gedymdeith di, a'th cwn?’ ‘Llyma,’ heb ynteu, ‘uyg kyfranc,’ a'e datcanu oll. ‘Dioer,’ heb y Riannon, ‘ys drwc a gedymdeith uuosti, ac ys da a gedymdeith a golleisti.’ A chan y geir hwnnw mynet allan, ac y traws y managassei ef uot y gwr a'r gaer, kyrchu a wnaeth hitheu.

Porth y gaer a welas yn agoret; ny bu argel arnei. Ac y mywn y doeth, ac y gyt ac y doeth, arganuot Pryderi yn ymauael a'r cawc, a dyuot attaw. ‘Och, uy Arglwyd,’ heb hi, ‘beth a wney di yma?’ Ac ymauael a'r cawc y gyt ac ef. Ac y gyt ac yd ymeueil, glynu y dwylaw hitheu wrth y cawc, a'y deutroet wrth y llech, hyt na allei hitheu dywedut un geir. Ac ar hynny, gyt ac y bu nos, llyma dwryf arnunt, a chawat o nywl, a chan hynny difflannu y gaer, ac e ymdeith ac wynteu.

Pann welas Kicua, uerch Gwyn Gloew, gwreic Pryderi, nat oed yn y llys namyn hi a Manawydan, drygyruerth a wnaeth hyt nat oed well genti y byw no'y marw. Sef a wnaeth Manawydan, edrych ar hynny. ‘Dioer,’ heb ef, ‘cam yd wyt arnaw, os rac uy ouyn i y drygyruerthy di. Mi a rodaf Duw y uach it, na weleisti gedymdeith gywirach noc y keffy di ui, tra uynho Duw it uot uelly. Y rof a Duw, bei et uwni yn dechreu uy ieuengtit, mi a gadwn gywirdeb wrth Pryderi, ac yrot titheu mi a'y cadwn; ac na uit un ouyn arnat,’ heb ef. ‘E rof a Duw,’ heb ef, ‘titheu a gey y gedymdeithas a uynych y genhyf i, herwyd uyg gallu i, tra welho Duw yn bot yn y dihirwch hwnn a'r goual.’ ‘Duw a dalho it; hynny a debywn i.’ Ac yna kymryt * llywenyd ac ehouyndra * o'r uorwyn o achaws hynny.

‘Ie, eneit,’ heb y Manawydan, ‘nyt kyfle yni trigyaw yma. Yn cwn a gollyssam, ac ymborth ny allwn. Kyrchwn Loegyr. Hawssaf yw in ymborth yno.’ ‘Yn llawen, Arglwyd,’ heb hi, ‘a ni a wnawn hynny.’ Y gyt y kerdyssant parth a Lloygyr. ‘Arglwyd,’ heb hi, ‘pa greft a gymery di arnat? Kymer un lanweith.’ ‘Ny chymeraf i,’ heb ef, ‘namyn crydyaeth, ual y gwneuthum gynt.’ ‘Arglwyd,’ heb hi, ‘nyt hoff honno y glanet y wr kygynhilet, kyuurd a thydi.’ ‘Wrth honno yd af ui,’ heb ef.

Dechreu y geluydyt a wnaeth, a chyweiraw y weith o'r cordwal teccaf a gauas yn y dref. Ac ual y dechreussant yn lle arall, dechreu gvaegeu y'r eskidyeu o waegeu eureit, yny oed ouer a man gueith holl grydyon y dref y wrth yr eidaw ef e hun. A thra geffit y gantaw, nac eskit, na hossan, ni phrynit y gan ereill dim.

A blwydyn * yuelly a dreulwys yno, ynyd * oed y crydyon yn dala kynuigen a chynghoruyn wrthaw, ac yny doeth rybudyeu idaw, a menegi uot y crydyon wedy duunaw ar y lad. ‘Arglwyd,’ heb y Kicua, ‘pam y diodeuir hynn gan y tayogeu?’ ‘Nac ef,’ heb ynteu, ‘ni a aem eissoes y Dyuet.’

Dyuet a gyrchyssant. Sef a oruc Manawydan, pan gychwynnwys parth a Dyuet, dwyn beich o wenith gantaw, a chyrohu Arberth, a chyuanhedu yno. Ac nit oed dim digriuach gantaw no gwelet Arberth a'r tirogaeth y buassei yn hela, ef a Pryderi, a Riannon gyt ac wynt.

Dechreu a wnaeth kyneuinaw a hela pyscawt, a llydnot ar eu gual yno. Ac yn ol hynny dechreu ryuoryaw, ac yn ol hynny, heu groft, a'r eil a'r trydyd. Ac nachaf y guenith yn kyuot yn oreu yn y byt, a'e deir grofd yn llwydaw yn un dwf, hyt na welsei dyn wenith tegach noc ef. Treulaw amseroed y ulwydyn a wnaeth. Nachaf y kynhaeaf yn dyuot; ac y edrych un o'e rofdeu y doeth. Nachaf honno yn aeduet. ‘Mi a uynhaf uedi honn auory,’ heb ef. Dyuot tra y gefyn y nos honno hyt yn Arberth.

E bore glas dranoeth, dyuot y uynnu medi y grofd. Pan daw, nyt oed namyn y calaf yn llwm, wedy daruot toni pob un yn y doi y * dywyssen o'r keleuyn, a mynet e ymdeith a'r tewys yn hollawl, ac adaw y calaf yno yn llwm. Ryuedu hynny yn uawr a wnaeth, a dyuot y edrych grofd arall; nachaf honno yn aeduet. ‘Dioer,’ heb ef, ‘mi a uynhaf medi honn auory.’ A thrannoeth dyuot ar uedwl medi honno. A phan daw, nit oed dim namyn y calaf llwm. ‘Oy a Arglwyd Duw,’ heb ef, ‘pwy yssyd yn gorfen uyn diua i? A mi a'e gwnn y neb a dechreuis uyn diua, yssyd yn y orffen, ac a diuawys y wlad gyt a mi.’

Dyuot y edrych y tryded grofd. Pan doeth, ny welsei dyn wenith degach, a hwnnw yn aeduet. ‘Meuyl y mi,’ heb ef, ‘ony wylaf i heno. A duc yr yt arall a daw y dwyn hwnn, a mi a wybydaf beth yw.’ A chymryt y arueu a wnaeth, a dechreu gwylat y grofd. A menegi a wnaeth y Kicua hynny oll. ‘Ie,’ heb hi, ‘beth yssyd y'th uryt ti?’ ‘Mi a wylaf y grofd heno,’ heb ef. E wylat y grofd yd aeth. Ac ual y byd am hanner nos yuelly, nachaf twryf mwyhaf yn y byt; sef a wnaeth ynteu edrych. Llyma eliwlu y byd o lygot; a chyfrif na messur ny ellit ar hynny. Ac ny wydat yny uyd y llygot yn guan adan y grofd, a phob un yn drigyaw ar hyt y kyleuyn, ac yn y estwng genti, ac yn torri y dywyssen * ac yn guan a'r tywys e ymdeith, ac yn adaw y calaf yno. Ac ni wydyat ef uot un keleuyn yno ny bei lygoden am pob un. Ac a gymerynt eu hynt racdunt ar tywys * gantunt. Ac yna rwng dicter a llit, taraw ymplith y llygot a wnaeth. A mwy noc ar y gwydbet, neu yr adar yn yr awyr, ny chytdremei ef ar yr un ohonunt wy; eithyr un a welei yn amdrom, ual y tebygei na allei un pedestric. Yn ol honno y kerdwys ef, a'y dala a wnaeth, a'y dodi a wnaeth yn y uanec, ac a llinin rwymaw geneu y uanec, a'y chadw gantaw, a chyrchu y llys.

Dyuot y'r ystauell yn yd oed Kicua, a goleuhau y tan, ac wrth y llinyn dodi y uanec ar y wanas a oruc. ‘Beth yssyd yna, Arglwyd?’ heb y Kicua. ‘Lleidyr,’ heb ynteu, ‘a geueis yn lledratta arnaf.’ ‘Pa ryw leidyr, Arglwyd, a allut ti y dodi y'th uanec?’ heb hi. ‘Llyma oll,’ heb ynteu, a menegi ual yr lygryssit ac y diuwynyssit y grofdeu idaw, ac ual y doethant y llygot idaw y'r grofd diwethaf yn y wyd. ‘Ac un ohonunt oed amdrom, ac a deleis, ac yssyd yn y uanec, ac a grogaf inheu auory. Ac ym kyffes y Duw, bei as caffwn oll, mi a'y crogwn.’ ‘Arglwyd,’ heb hi, ‘diryued oed hynny. Ac eisswys anwymp yw guelet gwr kyuurd, kymoned, a thidi, yn crogi y ryw bryf hwnnw. A phei gwnelut iawn, nyt ymyrrut yn y pryf, namyn y ellwng e ymdeith.’ ‘Meuyl ymi,’ heb ef, ‘bei as caffwnn i * wy oll, onys crogwn ac a geueis, mi a'e crogaf.’ ‘Ie, Arglwyd,’ heb hi, ‘nit oes achaws y mi y uot yn borth y'r pryf hwnnw, namyn goglyt ansyberwyt y ti. A gwna ditheu dy ewyllus, Arglwyd.’ ‘Bei gwypwn inheu defnyd yn y byt y dylyut titheu bot yn borth idaw ef, mi a uydwn wrth dy gynghor am danaw; a chanys gwnn, Arglwydes, medwl yw genhyf y diuetha.’ ‘A gwna ditheu yn llawen,’ heb hi.

Ac yna y kyrchwys ef Orssed Arberth, a'r llygoden gantaw, a sengi dwy forch yn y lle uchaf ar yr orssed. Ac ual y byd yuelly, llyma y guelei yscolheic yn dyuot attaw, a hen dillat hydreul, tlawt amdanaw. Ac neut oed seith mlyned kyn no hynny, yr pan welsei ef na dyn, na mil, eithyr y pedwardyn y buassynt y gyt, yny golles y deu. ‘Arglwyd,’ heb yr yscolheic, ‘dyd da it.’ ‘Duw a rodo da it, a grayssaw wrthyt,’ heb ef. ‘Pan doy di, yr yscolheic?’ heb ef. ‘Pan doaf, Arglwyd, o Loygyr o ganu. A phaham y gouynhy di, Arglwyd?’ heb ef. ‘Na weleis,’ heb ef, ‘neut seith mlyned, un dyn yma, onyt pedwar dyn diholedic, a thitheu yr awr honn.’ ‘Ie, Arglwyd, mynet,’ heb ef, ‘drwy y wlat honn yd wyf inheu yr awr honn, parth a'm gwlat uy hun. A pha ryw weith yd wyte yndaw, Arglwyd?’ ‘Crogi lleidyr a geueis yn lledratta arnaf,’ heb ef. ‘Ba ryw leidyr, Arglwyd?’ heb ef. ‘Pryf a welaf i'th law di ual llygoden. A drwc y gueda y wr kyuurd a thidi ymodi pryf kyfryw a hwnnw. Gellwg e ymdeith ef.’ ‘Na ellynghaf, y rof a Duw,’ heb ynteu. ‘Yn lledratta y keueis ef, a chyfreith lleidyr a wnaf inheu ac ef, y grogi.’ ‘Arglwyd,’ heb ynteu, ‘rac guelet gwr kyuurd a thidi yn y gueith hwnnw, punt a geueis i o gardotta, mi a'e rodaf it, a gellwng y pryf hwnnw e ymdeith.’ ‘Nac ellynghaf, y rof a Duw, nys guerthaf.’ ‘Gwna di, Arglwyd,’ heb ef. ‘Ony bei hagyr guelet gwr kyuurd a thidi yn teimlaw y ryw bryf a hwnnw, ny'm torei.’ Ac e ymdeith yd aeth yr yscolheic.

Val y byd ynteu yn dodi y dulath yn y fyrch, nachaf offeirat yn dyuot ataw, ar uarch yn gyweir. ‘Arglwyd, dyd da it,’ heb ef. ‘Duw a ro da it,’ heb y Manawydan, ‘a'th uendith.’ ‘Bendith Duw it. A pha ryw weith, Arglwyd, yd wyd yn y wneuthur?’ ‘Crogi lleidyr a geueis yn lledratta arnaf,’ heb ef. ‘Pa ryw leidyr, Arglwyd?’ heb ef. ‘Pryf,’ heb ynteu, ‘ar ansawd llygoden, a lledratta a wnaeth arnaf, a dihenyd lleidyr a wnaf inheu arnaw ef.’ ‘Arglwyd, rac dy welet yn ymodi y pryf hwnnw, mi a'y prynaf. Ellwng ef.’ ‘Y Duw y dygaf uyghyffes, na'y werthu, na'y ollwng nas gwnaf i.’ ‘Guir yw, Arglwyd, nyt guerth arnaw ef dim. Rac dy welet ti yn ymhalogi wrth y pryf hwnnw, mi a rodaf it deir punt, a gollwng ef e ymdeith,’ ‘Na uynhaf, y rof a Duw,’ heb ynteu, ‘un guerth, namyn yr hwnn a dyly, y grogi.’ ‘En llawen, Arglwyd, gwna dy uympwy.’ E ymdeith yd aeth yr offeirat. Sef a wnaeth ynteu, maglu y llinin am uynwgyl y llygoden.

Ac ual yd oed yn y dyrchauael, llyma rwtter escob a welei a'y swmereu a'y yniuer; a'r escop e hun yn kyrchu parth ac attaw. Sef a wnaeth ynteu, gohir ar y weith. ‘Arglwyd escop,’ heb ef, ‘dy uendith.’ ‘Duw a rodo y uendith it,’ heb ef. ‘Pa ryw weith yd wyt ty yndaw?’ ‘Crogi lleidyr a geueis yn lledratta arnaf,’ heb ef. ‘Ponyt llygoden,’ heb ynteu, ‘a welaf i y'th law di?’ ‘Ie,’ heb ynteu, ‘a lleidyr uu hi arnaf i.’ ‘Ie,’ heb ynteu, ‘can doethwyf i ar diuetha y pryf hwnnw, mi a'e prynaf y genhyt. Mi a rodaf seith punt it yrdaw, a rac guelet gwr kyuurd a thi yn diuetha pryf mor dielw a hwnnw, gollwng ef, a'r da a geffy ditheu.’ ‘Na ellynghaf, y rof a Duw,’ heb ynteu. ‘Kanys gollyngy yr hynny, mi a rodaf it pedeirpunt ar ugeint o aryant parawt, a gellwng ef.’ ‘Na ellynghaf, dygaf y Duw uyghyffes, yr y gymeint arall,’ heb ef. ‘Canys collyghy yr hynny,’ heb ef, ‘mi a rodaf it a wely o uarch yn y maes hwnn, a seith swmer yssyd yma, ar y seith meirch y maent arnunt.’ ‘Na uynhaf, y rof a Duw,’ heb ynteu. ‘Cany mynny hynny, gwna y guerth.’ ‘Gwnaf,’ heb ynteu, ‘rydhau Riannon a Phryderi.’ ‘Ti a gehy hynny.’ ‘Na uynhaf, y rof a Duw.’ ‘Beth a uynhy ditheu?’ ‘Guaret yr hut a'r lledrith y ar seith cantref Dyuet.’ ‘Ti a geffy hynny heuyt, a gellwng y llygoden.’ ‘Na ellyngaf, y rof a Duw,’ heb ef. ‘Gwybot a uynhaf pwy yw y llygoden.’ ‘Wy gwreic i yw hi, a phy ny bei hynny nys dillyngwn.’ ‘Pa gyffuryf y doeth hi attaf i?’ ‘Y herwa,’ heb ynteu. ‘Miui yw Llwyt uab Kil Coet, a mi a dodeis yr hut ar seith cantref Dyuet, ac y dial Guawl uab Clut, o gedymdeithas ac ef y dodeis i yr hut; ac ar Pryderi y dieleis i guare broch yghot a Guawl uab Clut, pan y gwnaeth Pwyll Penn Annwn; a hynny yn Llys Eueyd Hen y gwnaeth o aghynghor. A guedy clybot dy uot yn kyuanhedu y wlat, y doeth uyn teulu attaf inheu, ac y erchi eu rithyaw yn llygot y diua dy yd, ac y doethant y nos gyntaf uyn teulu e hunein. A'r eil nos y doethant heuyt, ac y diuayssant y dwy grofd. A'r tryded nos y doeth uy gwreic a gwraged y llys attaf, y erchi im eu rithaw, ac y ritheis inheu. A beichawc oed hi. A phy na bei ueichawc hi, nis gordiwedut ti. A chanys bu, a'y dala hi, mi a rodaf Pryderi a Riannon it, ac a waredaf yr hut a'r lletrith y ar Dyuet. Minheu a uenegeis yti pwy yw hi, a gellwng hi.’

‘Na ellynghaf, y rof a Duw,’ heb ef. ‘Beth a uynny ditheu?’ heb ef. ‘Llyna,’ heb ynteu, ‘a uynhaf, na bo hut uyth ar seith cantref Dyuet, ac na dotter.’ ‘Ti a geffy hynny,’ heb ef, ‘a gellwng hi.’ ‘Na ellynghaf, y rof a Duw,’ heb ef. ‘Beth a uynny ditheu?’ heb ef. ‘Llyna,’ heb ef, ‘a uynhaf, na bo ymdiala ar Pryderi a Riannon, nac arnaf inheu, uyth am hynn.’ ‘Hynny oll a geffy. A dioer, da y medreist,’ heb ef. ‘Bei na metrut hynny,’ heb ef, ‘ef a doy am dy benn cwbyl o'r gouut.’ ‘Ie,’ heb ynteu, ‘rac hynny y nodeis inheu.’ ‘A rytha weithon wy gwreic im.’ ‘Na rydhaaf, y rof a Duw, yny welwyf Pryderi a Riannon yn ryd gyt a mi.’ ‘Wely di yma wynteu yn dyuot,’ heb ef.

Ar hynny, llyma Pryderi a Riannon. Kyuodi a oruc ynteu yn eu herbyn, a'y graessawu, ac eisted y gyt. ‘A wrda, rytha uy ngwreic im weithon, ac neu ry geueist gwbyl o'r a nodeist.’ ‘Ellynghaf yn llawen,’ heb ef.

Ac yna y gollwng hi, ac y trewis ynteu hi a hudlath, ac y datrithwys hi yn wreigyang deccaf * a welsei neb.

‘Edrych i'th gylch ar y wlat,’ heb ef, ‘a thi a wely yr holl anhedeu, a'r kyuanhed, ual y buant oreu.’ Ac yna kyuodi a oruc ynteu ac edrych. A phan edrych, ef a welei yr holl wlat yn gyuanhed, ac yn gyweir o'y holl alauoed a'y hanedeu.

‘Pa ryw wassanaeth y bu Pryderi a Riannon yndaw?’ heb ef. ‘Pryderi a uydei ac yrd porth uy llys i am y uynwgyl, a Riannon a uydei a mynweireu yr essynn, wedy bydyn yn kywein gueir, am y mynwgyl hitheu. Ac yuelly y bu eu carchar.’

Ac o achaws y carchar hwnnw, y gelwit y kyuarwydyt hwnnw, Mabinogi Mynweir a Mynord. Ac yuelly y teruyna y geing honn yma o'r Mabinogy.