Marwnad Lleucu Llwyd

gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen

Llyma haf llwm i hoywfardd,
a llyma fyd llwm i fardd.
E'm hybeiliawdd, gawdd gyfoed,
am fy newis mis o'm oed.
Nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewych, na lliw,
er pan rodded, trwydded trwch,
dan lawr dygn dyn loer degwch.
Y ferch wen o'r dderw brennol,
arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
cyd bych o fewn caead bedd,
f'enaid, cyfod i fyny,
egor y ddaearddor ddu,
gwrthod wely tywod hir,
a gwrtheb f'wyneb, feinir.
Mae yman, hoedran hydraul,
uwch dy fedd, huanwedd haul,
ŵr prudd ei wyneb hebod,
Llywelyn Goch, gloch dy glod.
Udfardd yn rhodio adfyd
ydwyf, gweinidog nwyf gwŷd.
Myfi, fun fwyfwy fonedd,
echdoe a fûm uwch dy fedd
yn gollwng deigr llideigrbraff
ar hyd yr wyneb yn rhaff.
Tithau, harddlun y fun fud,
o'r tewbwll ni'm atebud.
Tawedog ddwysog ddiserch,
ti addawsud, y fud ferch,
fwyn dy sud, fando sidan,
f'aros, y ddyn loywdlos lân,
oni ddelwn, gwn y gwir,
ardwy hydr, o'r deheudir.
Ni chiglef, sythlef seithlud,
air ond y gwir, feinir fud,
iawndwf rhianedd Indeg,
onid hyn, o'th enau teg.
Trais mawr, ac ni'm dawr am dŷ,
torraist amod, trist ymy.
Tydi sydd, mau gywydd gau,
ar y gwir, rywiog eiriau,
minnau sydd, ieithrydd athrist,
ar gelwydd tragywydd trist.
Celwyddog wyf, cul weddi,
celwyddlais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddiw,
ni'm dawr pa fan, loywgan liw;
fy nyn wyrennig ddigawn,
pe bait fyw, myn Duw, nid awn.
Pa le caf, ni'm doraf, dioer,
dy weled, wendew wiwloer,
ar fynydd, sathr Ofydd serch,
Olifer, yr oleuferch?
Llwyr y diheuraist fy lle,
Lleucu, deg waneg wiwne,
riain wiwgain oleugaen,
rhy gysgadur 'ny mur maen.
Cyfod i orffen cyfedd
i edrych a fynnych fedd,
at dy fardd, ni chwardd ychwaith
erot dalm, euraid dalaith.
Dyred, ffion ei deurudd,
i fyny o'r pridd-dŷ prudd.
Anial yw ôl camoleg,
nid rhaid twyll, fy neudroed teg,
yn bwhwman rhag annwyd
ynghylch dy dŷ, Lleucu Llwyd.
A genais, lugorn Gwynedd,
o eiriau gwawd, eiry ei gwedd,
llef drioch, llaw fodrwyaur,
Lleucu, moliant fu it, f'aur;
â'r genau hwn, gwn ganmawl,
a ganwyf, tra fwyf, o fawl,
f'enaid, hoen geirw afonydd,
fy nghariad, dy farwnad fydd.
Cymhennaidd groyw loyw Leucu,
cymyn f'anwylddyn fun fu:
ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
i Dduw Dad, addewid iawn;
a'i meingorff, eiliw mangant,
meinir i gysegrdir sant;
dyn pellgŵyn, doniau peillgalch,
a da byd i'r gŵr du balch;
a'i hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
i minnau a gymannawdd.
Lleddf ddeddf ddeuddawn ogyfuwch,
Lleucu dlos, lliw cawod luwch,
pridd a main, glain galarchwerw,
a gudd ei ddeurudd, a derw.
Gwae fi drymed y gweryd
a'r pridd ar feistres y pryd!
Gwae fi fod arch i'th warchae!
A thŷ main rhof a thi mae,
a chôr eglwys a chreiglen
a phwys o bridd a phais bren.
Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
breuddwyd dig briddo dy dâl!
Clo dur derw, galarchwerw gael,
a daear, deg dy dwyael,
a thromgad ddôr, a thrymgae,
a llawr maes rhof a'r lliw mae,
a chlyd fur, a chlo dur du,
a chlicied; yn iach, Leucu!