Natur y Gwreiddyn yn y Brigau

gan Tudur Aled

Mae'n wir y gwelir argoelyn - difai
Wrth dyfaid y brigyn;
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.