Prif Feirdd Eifionydd/Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes

Mae'r gwaed a redodd ar y groes Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Mi âf ymlaen o nerth i nerth

Galwad ar yr Ieuainc.

CYSEGRWN flaenffrwyth ddyddiau'n hoes
I garu'r Hwn fu ar y groes;
Mae mwy o bleser yn ei waith
Na dim a fedd y ddaear faith.


Cael bod yn fore dan yr iau
Sydd ganmil gwell na phleser gau;
Mae ffyrdd doethineb oll i gyd,
Yn gysur ac yn hedd o hyd.

O! na threuliaswn yn ddigoll
O dan iau Crist fy mebyd oll!
Mae'r Hwn a'm prynodd ar y groes
Yn deilwng o bob awr o'm hoes.

—PEDR FARDD.


Nodiadau golygu