Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879)/Mathew VI
← Mathew V | Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist (1879) gan Cymdeithas y Beibl |
Mathew VII → |
PENNOD VI.
1 Crist yn myned rhagddo yn ei bregeth ar y mynydd; gan draethu am elusen, 5 a gweddi, 14 maddeu in brodyr, 16 ac ympryd; 19 pa le y mae i ni roddi ein trysor i gadw; 24 ynghylch gwasanaethu Duw a mammon: 25 yn annog na bydder gofalus am bethau bydol; 33 ond am geisio teyrnas Dduw.
1 GOCHELWCH rhag gwneuthur eich elusen y'ngŵydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt: os amgen ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
2 Am hynny pan wnelych elusen, na udgana o'th flaen, fel y gwna y rhagrithwyr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion. Yn wir, meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
3 Eithr pan wnelych di elusen, nå wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddehau;
4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5 ¶ A phan weddïech, na fydd fel y rhagrithwyr: canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau, ac y'nghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion. Yn wir meddaf i chwi, Y maent yn derbyn eu gwobr.
6 Ond tydi, pan weddïech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.
7 A phan weddïoch, na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau.
8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gŵyr eich Tad pa bethau sydd arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo.
9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn: Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw.
10 Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.
12 A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Canys eiddot ti yw y deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu hefyd i chwithau:
15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau.
16 ¶ Hefyd, pan ymprydioch, na
fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont
i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn
wir meddaf i chwi, Y maent yn
derbyn eu gwobr.
17 Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb;
18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i'th Dad yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn amlwg.
19 ¶ Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladratta;
20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwodd ac nis lladrattânt.
21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
22 Canwyll y corph yw y llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.
23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorph fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
24 ¶ Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon
25 Am hynny meddaf i chwi, Na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttâoch, neu pa beth a yfoch; neu am eich corph, pa beth a wisgoch. Onid yw y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corph yn fwy na'r dillad?
26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i ysguboriau; ac y mae eich Tad nefol yn eu porthi hwy. Onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?
27 A phwy o honoch gan ofalu, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?
28 A phaham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? Ystyriwch lili y maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu:
29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.
30 Am hynny os dillada Duw felly. lysieuyn y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y fory a fwrir i'r ffwrn, oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer o chwi o ychydig ffydd
31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwyttâwn? neu, Beth a yfwn? neu, A pha beth yr ymddilladwn?
32 (Canys yr holl bethau hyn y mae y Cenhedloedd yn eu ceisio ;) oblegid gŵyr eich Tad nefol fod arnoch eisieu yr holl bethau hyn.
33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg.
34 Na ofelwch gan hynny dros drannoeth: canys trannoeth. a ofala am ei bethau ei hun. Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.