Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/100

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hirfeinion yn hollti y cymylau fry, a'i chorff megys castell cadarn ar y mor berwedig; a dynion yn llawenychu wrth agoshau at hoff wlad eu trigfan a'u cyfeillion, lle yr oedd gwrthrych serch ambell un yn ocheneidio yn hiraethus am dano; ambell fam yn disgwyl yn ddyfal gyda chalon frwd am ddychweliad unig fab ei mynwes, a gwragedd am eu priod a thad eu plant. Ond heddyw y castell cadarn wedi hollti drwyddo, a chymaint a allai ei breswylwyr wneyd oedd ei gadw rhag llwyr suddo; yr hwyliau wedi hollti fel gardysau, ac ambell ddernyn o honynt wedi glynu yn y rhaffau, ac yn chwyrnu yn nanedd cynddaredd y gwynt. Y dynion oedd yn llawenychu ddoe wrth yr olwg ar wlad eu genedigaeth, yn edrych arni heddyw fel ar wyneb marwolaeth."

Ond yr oedd ar lan y môr elynion mwy creulawn a didosturi na'r ystorm. Gwylid y llestr anffodus gan fintai o ladron y glanau; ac yn lle ceisio achub y bywydau gwerthfawr, maent yn prysuro marwolaeth lluaws o honynt, er mwyn yr aur a'r arian allai fod yn eu meddiant. Mae yr Hanesydd yn cael ei hyrddio i fynwes y don, ac yn colli pob ymwybyddiaeth. Y lle nesaf y mae yn cael ei hunan ynddo ydyw mewn ystafell-wely, mewn lle hollol ddieithr, ac amryw yn gweini yn garedig arno. Deallai, wedi holi, ei fod yn nhy ficer y plwyf, yr hwn oedd wedi ei wareduyr unig un o'r holl deithwyr-o safn marwolaeth. Mae desgrifiad y ficer o'r modd y gwaredwyd y llong-ddrylliedig, ac ymddygiadau annynol y môr-ladron, yn hynod o fywiog. Wedi iddo ef a'i wŷr lwyddo i dynu y corff— oblegid nid oedd yn ddim amgen ar y pryd-o safn don, ebai y ficer: Dyna hen wreigan haner gwlyb yn dyfod atom, a siwgr toddedig yn treiglo i lawr hyd ei gruddiau, a thros ei hysgwyddau, gan ei bod wedi llenwi ei het âg ef, ac yntau yn wlyb, a dywedodd wrthym: