Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/105

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffawd (neu anffawd, hwyrach) daliodd ysgyfarnog ar y ffordd. Cyn iddo ei rhoddi o'r golwg, fodd by nag, daeth yr ysgweier heibio, a chymerwyd hi oddiarno. Cafodd ei wysio i lys barn i ateb am ei drosedd. Yn y cyfwng lluniodd gân wawdus, duchanol, ac yn y llys gofynodd am ganiatad i'w darllen. Cydsyniwyd, a darllenodd hi gydag arddeliad diameuol. Tybed y caniateid y fath beth yn awr? Ond er donioled y gân cafodd ei ddirwyo yn drwm. Nid oedd ganddo fodd i dalu; ond yn yr awr gyfyng, fe gyfododd boneddwr yn y llys, a datganai ei barodrwydd i dalu dros y llanc anffodus. O'r dydd hwnw allan bu y boneddwr caredig yn noddwr-ac yn y diwedd yn rhywbeth mwy-i fardd y tuchangerddi. Elai y llanc beunydd i dŷ y boneddwr, yr hwn, wrth ganfod ei dueddiadau llenyddol, a roddodd iddo lawer o hyfforddiant.. Ond yn ychwanegol at drysorau ei lyfrgell, yr oedd gan y noddwr drysor gwerthfawrocach na'r perl a thlysach na'r lili-nid amgen, ei unig ferch. Ni chuddiwyd y trysor hwn o olwg y bardd; ac a ydyw yn angenrheidiol wrth ryddiaeth oer i hysbysu y canlyniad? Onid llygad i weled a chalon i deimlo sydd yn gwneyd bardd? Ac o'r foment

y gwelodd yr "arwr" Elen y Plas, yr oedd ei galon yn gysegr serch, ac yntau yn fardd y rhiangerddi. Ond sut yr oedd dweyd y ffaith wrth Elen, ie, mwy, pa fodd y gellid yngan y peth wrth ei thad? Buasai yn ddyddorol i ni ddilyn troion y daith, oblegid y mae serch yn mhob. amgylchiad, yn newydd a hen, ar yr un pryd.

For love is old,
Old as eternity; but not out-worn,
With each new born, or to be born.

Profodd yntau fod llwybr garw i'w dramwyo cyn cyraedd cylch y gwynfyd. Ond amser a ballai i ni olrhain ei helyntion-ei gymundeb ag Elen yn encilion yr ardd a'r