Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo, lle y gorchymynwyd ef i weithio fel caethwas cyffredin. Ond yn ffodus, deallo dd cadben y llong am ei dynged, a bu yn foddion i'w waredu o afael marwolaeth araf, ond sicr. Mae y darluniad o'r amgylchiadau hyn, yn nghyda'r helfa ar ol y boneddwr, alias y caethfeistr creulawn, yn hynod o fyw a meistrolgar. Ond rhaid gadael yr oll, gyda dweyd fod y bardd wedi dychwel gyda mynwes ddiolchgar i'w "hen, hen wlad," ac wedi penderfynu treulio gweddill ei ddyddiau yn y bwth neillduedig ar lan y môr, lle y darganfyddwyd ef gan awdwr yr hanes yr ydym wedi bod yn ceisio rhoddi bras-linelliad o hono.

Y mae wedi cael ei ddweyd mai diffyg mawr y "Meudwy Cymreig," a'i barnu fel ffug-chwedl, ydyw ab senoldeb plot. Rhaid addef fod hyn i fesur yn wirionedd. Hefyd, dichon fod y cymysgedd sydd yn y gwaith o weledigaethau, a'r hyn y bwriedir i'r darllenydd ei ystyried fel hanes noeth, yn effeithio yn anfanteisiol ar gymeriad y gwaith. Mae rhan fawr o'r llyfr ar ddelw y Bardd Cusg, tra y mae y llall yn ddesgrifiad o bethau a allasent fod yn adlewyrchiad o hanes yr awdwr ei hun. Yr wyf yn lled-dybied fod y darlun o'r mynydd llosg yn grynhoad o argraffiadau a wnaed ar ei feddwl pan yn syllu ar Vesuvius, er ei fod wedi gosod yr olygfa yn y Tawelfor. Buasai toddi y meddyliau i un fold-bydded hono weledigaeth neu hanes yn sicr o beri i'r "Meudwy" raddio yn uwch fel cyfanwaith cymesur a gorphenedig. Ond fel y mae, perthyna iddo ragoriaethau diameuol:

I. Y mae wedi ei ysgrifenu mewn iaith loew a darluniadol. Yr oedd Cawrdaf yn artist wrth natur, ac y mae delw hyny yn amlwg ar y gwaith hwn. Ystyriwn ef yn werth ei ddarllen, er mwyn y Gymraeg dlos a dillyn sydd yn wisg i'w feddyliau.