Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.
"Y DERWYDDON."

WEEDI ymdroi yn hwy nag y bwriadem ar y ffordd, amcanwn alw sylw at weithiau barddonol Cawrdaf, oblegid fel awenydd yr enillodd efe ei safle mewn llenyddiaeth Gymreig. Cyfansoddodd lawer ar gyfer Eisteddfodau, a llwyddodd i gipio amryw o'r prif wobrwyon. Ceir darnau gwych yn ei awdl ar "Dderwyddon Ynys Prydain." Am y trioedd Cymreig efe a ddywed:

"Hyn wnaf, troaf i'r trioedd,
Eu gair hwynt yn gywir oedd;
Ceir heddyw'u cywir addysg
Yn ffrwythau dyfnderau dysg.

A dyma ddarlun prydferth o Salisbury Plain-hen gynullfan y Derwyddon-ar foreu nawsaidd yn mis Mai:—

Daear werdd a cherdd a chwarddai—a thant
Môr a thir gyd-ganai;
Wyneb y prudd-glwyf wenai
Wel'd llwyn, a maes mwyn, mis Mai!

Y mae y ddwy linell ddiweddaf mor wir ag ydynt o dlws. Beth sydd yn debyg i haf-olygfeydd am iachau clwyfau yr ysbryd? Yn eu gwydd ffy y drychiolaethau hyny sydd yn tywyllu ystafelloedd y galon, ac yn cerfio prudd-der ar y wedd. Druan o'r bobl hyny sydd yn ceisio adfeddianu llawenydd yn mhalasau y gloddest, ac yn nghynyrfiadau delirious hap-chwareuaeth. Nid yw y wen a'r chwerthiniad a gynyrchir yn y manau hyny ond rhag-redegydd sicr tristwch a gwae. Ond am y wen a ddawsia ar y