Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wynebpryd wrth wrando ar fiwsig y llwyn, ac edrych ar yr awel yn ysgafndroedio hyd y gwair yn mis hyfrydawl Mai -y mae y cyfryw wen yn gydymaith diniweidrwydd, ac yn ymlid hunllef y pruddglwyf i froydd hud a lledrith. Fel y dywed Ceiriog yn ei ddull hapus ei hun:

'Does neb yn rhy hen i wenu ar Anian,
Pob mynwes a wên ar rosyn yr haf.

Os mynem gadw y galon yn ieuanc, a'r wyneb yn llon, na fydded "llwyn" a "maes yn angof genym. Un ffordd anffaeledig i beidio gweled y pruddglwyf, na'i deimlo chwaith, ydyw defnyddio pob cyfleusdra a gawn i wel'd llwyn, a maes mwyn mis Mai! Ond rhaid myned rhagom. Gwyddis fod olion Derwyddol yn Stone-henge. Am y lle hwnw fe ddywedir ei fod wedi ei ffurfio gan law Natur mor gywrain fel y gall un dyn lefaru yn nghlywedigaeth dros gan' mil o bobl. Wrth syllu ar y meini mawrion sydd yn y llanerch, dyma iaith awen Cawrdaf:

Cre-edig greig hir ydynt—hywenaw!
Yn wyneb pob corwynt:
A chaerau'n gwaith ni chryn gwynt,
Na henoes un o honynt.
****
Ai cawr o angel cywraint—a gwnai,
Glogwyni gan gymaint,
Na finiai dur-lif henaint—
Yn gaerau, gorseddau saint

Nage ddim—eu gwedd yman
A fydd nes el dydd yn dan;
Arwydd nerth Derwyddon ynt—
Mesur oed amser ydynt!

Ond daw y Rhufeiniaid ar warthaf y Derwyddon heddychol yn Neheubarth Lloegr, ac y maent yn penderfynu ffoi i Wyllt Walia am nawdd. Dyma eu profiad:—