Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/111

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n bod mewn hynod hwyl
Draw, ini frodyr anwyl,
Mewn tir nas gwelir galon,
Na nos fyth, yn Ynys Fon.

Cyrhaeddant yno yn ddiogel:

Wele'u drych ar dawel drai
Yn dra blin yn min Menai.

Melus oedd y cyfarfyddiad! Cafodd y Derwyddon ffoedig dderbyniad croesawus gan feirdd yr hen Ynys. Yr oeddynt yn iawn yn hyny, ond am y rhan arall-"tir nas gwelir gâlon"-troes yn siomiant chwerw. Daeth y gelynion Rhufeinaidd i Fon hefyd; llosgwyd y llwyni uchel-wydd, a merthyrwyd llu mawr o'r Derwyddon gwladgar. Am y trychineb hwn dywed y bardd yn deimladwy:

Arwyl oer hir alaru
Marwolaeth dysgeidiaeth gu!
A gwae Fon roi careg fedd
Ar wyneb y gwirionedd!
A chloi dysg uchel a dawn
Yn ngafael yr anghyfiawn.

A nos ddu, ddofn, a deyrnasodd ar ol hyn hyd doriad gwawr efengyl ar yr ynys: {{center block| <poem> Y diwrnod daeth "gair y deyrnas"—i lonwych

Ail uno cymdeithas ;
Wele harddwch hael urddas,
Haul a grym efengyl gras.

Mae gan ein bardd gywydd ag sydd yn desgrifio yr un amgylchiad" Dinystr Derwyddon Mon pan oresgynwyd yr Ynys gan luoedd Suetonius." Am y cyfansoddiad hwn dywedai Gwallter Mechain fod desgrifiad y bardd o olygfa y tir, a chymylau eurgnu yr awyr yn cael eu hadlewyrchu yn nyfroedd y Fenai, yn ei ddynodi yn fardd anian. Wele ddwy o'r cyfryw olygfeydd:—