Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/115

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr ydyw galw sylw at rai o brydferthion cyfansoddiad Cawrdaf. Am farddoniaeth llyfr Job efe a ddywed :

Geiriau diddysg, rhaid addef
I'w dal wrth ei brif—awdl ef
Yw awdlon goreuon r'oes
Dylanwad anadl einioes,
Canai emyn cyn Homer,
Eiliai bwnc cyn Virgil ber.

Wedi bod yn darlunio y chwalfa chwyrn fu ar feddianau a chysuron Job, y mae yn ei ddesgrifio yn dweyd fel hyn:

O cefais uchder cyfoeth
Da yw nwyn yn dlawd a noeth;
I'w angen, annheilyngwr
Yw dyn o ddefnyn o ddwr!

Pan y mae ei wraig yn ei berswadio i felldithio Duw fe ddywed :

Go ryfedd yw gwarafun
I Dduw hael ei eiddo ei hun!

Darlunia ei boenau arteithiol fel y canlyn:—

Aelwydydd gwynias yw'r aelodau—gaf,
Gofid yn ffynonau;
Y pen sydd yn poenus wau,
Y gwenwyn drwy'r gewynau!

Wele un o'i gyfeillion yn nesau ato:

A bron o ffyddlon goffhad,
Yn deml o gydymdeimlad.

Cafodd y patriarch ar y domen oer, ar "laith nos a gwlith y nen,"

A'i llaw tros y fan lle trig,
Aethog iawn, noeth ac unig;
Y naill du mae'r fantell deg
Yn gorwedd ar ryw gareg.

Mae yr ymddyddanion rhyngddo a'i gyfeillion wedi eu cyd-osod yn dda; ymfoddlona y bardd ar gynghaneddu