Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylwedd yr hanes Beiblaidd. Ar y diwedd darlunir Job yn gweddio fel y canlyn:

Ystyriol Dad y tosturi—o nghur,
Fy nghwyn rwy'n gyfodi,
O'm holl ddrwg i d'olwg di,
Drag'wyddol wrandawr gweddi!

Edryched Ior uchel—ar ei wael un
Sydd ar lawr mor isel;
Tro y chwith felldith yn fel,
A'r diwedd yn wawr dawel!

Cafodd y weddi ei gwrando. Daeth y "wawr dawel" i chwalu yr hirnos ddu. Dilynwyd y cystudd trwm gan adferiad—adferiad iechyd, cyfoeth a dedwyddwch. Amgylchynir ei fwrdd gan gyfeillion na welsai eu hwyneb yn ystod ei gystudd—daethant yn ol fel gwenoliaid haf pan wybuant fod y rhod wedi troi:—

Cyfeillion ddigon ddygant—i'w lys ef
Tlysau aur ac ariant;
Yn ei wleddoedd a'i lwyddiant
Am un ac oedd y mae cant.

Rhyfedd mor debyg yw plant dynion drwy yr oesau ! A golygfa hapus oedd gweled y Caldeaid yn dwyn y defaid a ladratasant yn ol, a'r "Sabeaid hirion " gwneyd yr un fath gyda'r camelod:—

Camelod fel cymylau—ar feingorff
Y terfyngylch golau;
A'u blaen sydd yn blin nesau
I seibiant 'r hen bresebau.

Cyn pen hir y mae Job yn arlwyo gwledd ysblenydd—ymgyfarfyddai y gwahoddedigion mewn neuadd wych, ond yn ei nenfwd, mewn gwrthgyferbyniad hynod i harddwch yr ystafell, yr oedd cragen a swp o hen garpiau! Ystyriwn hon yn stroke gampus o eiddo y bardd. Nid gormod yw