Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dweyd nad oes gan Eben na Hiraethog un tarawiad mwy naturiol yn eu caniadau gorchestol ar yr un testyn. Ar ganol y wledd y mae un o'r cwmni yn troi at Job ac yn gofyn:

Pa wedd y mae'r carpiau hyn,
Ar gyrau dy fur gorwyn,
A'r hen gragen a grogir
I wedd hardd dy neuadd hir?

Ateba y patriarch gyda goslef ddrylliog:

Deallwch mai dyna'r dillad—oeddynt
Ddyddiau'm darostyngiad;
Hyd foreu fy adferiad—gweddillion
Heddyw yn goron o ddawn ei gariad!

Y mae yn y darlun hwn wers bwysig: Pan fo llwyddiant yn gwenu, doder y "gragen"—adgof dyddiau darostyngiad—mewn rhyw le amlwg, rhag i falchder ddymchwelyd y llestr, a gwneyd y diwedd yn waeth na'r dechreuad.

Yr ydym yn fwriadol wedi ymatal rhag crybwyll y mwyaf adnabyddus, ac o bosibl, y goreu o weithiau ein bardd hyd yn awr, sef awdl "Hiraeth y Cymro." Gwir y sylwai Gwallter Mechain mai "awdl hiraeth yw hon o'r dechreu i'w diwedd." Credwn fod yn anmhosibl i alltud, beth bynag, ddarllen y llinellau heb i ffynonau y dyfnder yn ei galon ymagor i'w gwaelodion. Desgrifia ei hun mewn bro bell:

Yn ysig lawer noswaith,
A'm gorweddfa'n foddfa faith!
Gwely, gobenydd galed—o geryg,
I orwedd mewn syched,
'N wylaw a'r ddwy law ar led
Am gynes fro i'm ganed.
Ow! na chawn mewn llonach hwyl
Droedfedd o Wynedd anwyl!

A pha galon Gymreig nad ydyw yn dirgrynu dan ddylanwad y pathos dwfn sydd yn y llinellau terfynol:—