Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth y peth hwn i losgi fel tân yn ei esgyrn. Gwnaeth apeliadau taerion at y Frenhines a'r Senedd am iddynt wneyd rhywbeth dros efengyleiddiad Cymru,—rhywbeth i leihau yr anwybodaeth dygn oedd fel hunllef ar ein gwlad. Apeliai am bregethwyr Cymreig: rhai yn gallu meddwl a llefaru yn iaith y bobl; rhai yn byw gyda'r bobl, ac nid yn ffarmio bywiolaethau breision heb ddod un amser i'w golwg, heb son am wneyd unrhyw ddaioni ysbrydol i'r trigolion. Pwrcasodd Penri argraffwasg i'r amcan o ledaenu ei olygiadau, a thrwy gynorthwy hono gwasgarwyd amryw draethodau ar hyd a lled y wlad. Wrth weled yr awdurdodau yn para mor glust-fyddar, cafodd Penri ei demtio i ysgrifenu pethau lled chwerw am yr Uchelwyr a'r Esgobion. Mewn canlyniad i hyn, syrthiodd dan wg yr Archesgob Whitgift. Dygwyd ef gerbron yr Uchel-lys a bwriwyd ef i garchar. Cafodd ei ysbryd tyner ei glwyfo yn ddwfn, a phan ollyngwyd ef yn rhydd ysgrifennodd yn fwy chwerw am yr awdurdodau oeddynt yn anwybyddu pob cais i ddarpar ar gyfer angen ysbrydol Cymru. Wedi bod ar ffô yn yr Alban, daliwyd ef drachefn, a chafodd ei gollfarnu i farw yn mlodau ei ddyddiau. Y mae ei lythyrau diweddaf at ei briod a'i blant yn mysg y pethau mwyaf toddedig a ysgrifenwyd erioed.

Yn mis Mai, 1593, ar bwys gwarant wedi ei harwyddo gan yr Archesgob Whitgift, dienyddiwyd y gwladgar a'r seraphaidd John Penri, yn 34 mlwydd oed, ac nis gŵyr neb le y mae man fechan ei fedd."

Ond, fel y dywedai Mr. O. M. Edwards, pan yn ysgrifennu am dano, y mae wedi dyfod yn "fis Mai," bellach, ar yr achos y bu John Penri fyw a marw er ei fwyn. Heddyw pregethir efengyl y deyrnas drwy Gymru oll,—

O Lanandras i Dy-ddewi
O Gaergybi i Gaerdydd.