Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deulu cyfrifol. Addysgwyd yntau yn Rhydychen, a bwriedid iddo fod yn offeiriad. Aeth i wrando William Wroth, a phrofodd ddylanwad yr Efengyl ar ei galon. Daeth yn ddyn newydd, ac yn genad hedd i'w wlad. Bu am dymhor yn gurad yn Nghaerdydd, ond tynodd wg yr awdurdodau. Gwysiwyd ef i ymddangos o flaen yr archesgob Laud yn Lambeth, a chollodd guradiaeth Caerdydd.

Yn 1632, ceir ef yn Ngwrecsam. Bu yn dra llwyddianus yno fel efengylydd. Pregethai gyda gwres a grym. Dychwelwyd llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd, ac yn eu plith yr oedd y gŵr hynod hwnw-Morgan Llwyd o Wynedd. Ond cododd ystorm yn ei erbyn. Blaenor y gad oedd bragwr o'r enw Timothy Middleton. Methai a gwerthu'r ddiod frag, a rhoddai y bai ar weinidogaeth Walter Cradoc. Penderfynodd y bragwr ei ymlid ymaith, a llwyddodd yn ei gais. Symudodd Cradoc i swydd Hereford, ac yno bu yn foddion i ddychwelyd Vavasor Powell i'r ffydd. Teithiodd Cradoc lawer ar hyd a lled y Dywysogaeth. Ar un o'r teithiau hyny y darfu i Morgan Howell, prydydd o sir Aberteifi, ei warthnodi gyda'r englyn anfarwol (?) a ganlyn:

Dyma fyd, trwm ofid, i'w drin,—nid pregeth
Ond bregiach heb wreiddyn;
Gan ryw Gradoc o grwydryn:
Cenhadwr d---l, swynhudawl ddyn.

Ond, yn mhen amser wedyn, aeth yr englyn a'r awdwr dan gyfnewidiad hynod. Yr oedd Walter Cradoc yn pregethu mewn mangre yn Aberteifi, a Morgan Howell, gydag eraill, yn chwareu'r bêl droed ar y cae lle y safai y pregethwr. Amcan Morgan oedd rhoddi hergwd i'r bêl fel ag i daro y pregethwr yn ei wyneb. Ond darfu i rywun ei dripio; torodd ei goes, a gorfu iddo orwedd gerllaw hyd ddiwedd yr oedfa. Aeth saethau y gwirionedd