Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mis o garchar. Yr ail dro codai y ddirwy i £10, a'r trydd tro i £100, neu alldudiaeth am oes.

DEDDF Y PUM MILLDIR.

Ategwyd hon gan Ddeddf y Pum Milldir. Gwaherddidi'r gweinidogion oeddynt wedi gwrthod cyd-ffurfio, ddyfod o fewn pum milldir i'r fan y buont yn gwasanaethu yn flaenorol, nac o fewn pum milldir i unrhyw ddinas neu dref. Os troseddid y ddeddf hon, cosbid y cyfryw gyda dirwy o £40, neu chwe mis o garchar. Cyfrifir fod tua 60,000 o bersonau wedi dioddef yn herwydd y deddfau gormesol hyn, a bod dros bum mil ohonynt wedi meirw yn ngwahanol garcharau'r deyrnas.

JOHN BUNYAN.

Yn mysg y dioddefwyr hyn yr oedd John Bunyan. Treuliasai efe foreu ei oes mewn anystyriaeth, ond cafodd ei argyhoeddi, fel ei "Bererin" ei hun; gadawodd Ddinas Distryw a daeth yn ymdeithydd tua'r Ganaan nefol. Galwyd ef i'r swydd o bregethwr, a thra yn arwain gwasanaeth crefyddol, cymerwyd ef i'r ddalfa, a thaflwyd ef i garchar Bedford. Yno y bu am ddeuddeg mlynedd; yno yr ysgrifennodd ei freuddwyd anfarwol-"Taith y Pererin." Y mae y breuddwyd hwnw, bellach, wedi dod yn rhan o lenyddiaeth y byd, ac y mae y gwerinwr a'r ysgolor yn cyd-wledda ar y golygfeydd a linellwyd gan ddychymyg Bunyan yn nhy ei bererindod.