Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/45

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Saint."

Yr oedd Baxter yn un o saint gloewaf ei ddydd. Daeth tref Kidderminster, yn adeg ei weinidogaeth ef, yn Baradwys mewn crefydd a moes. Yr oedd Baxter, fel y sylwyd eisoes, yn un o'r Ddwy Fil. A phan yn hen wr, gorfu iddo ymddangos o flaen y Barnwr Jeffreys,—angel ac anghenfil wyneb-yn-wyneb; ac yn anffodus yr anghenfil oedd ar orsedd barn, ac anfonwyd yr angel-bregethwr i garchar. Yr oedd y gosb yn ysgafn o'i chydmaru â llawer dedfryd anynol o eiddo'r Barnwr Jeffreys. Y mae arwyddair Richard Baxter yn werth ei gofio, ac yn ddatguddiad o lydanrwydd ei feddwl a'i syniadau : "Mewn pethau hanfodol, undeb mewn pethau amheus, rhyddid: yn mhob peth cariad." Ymdaith at ysbryd arwyddair Baxter y mae goreugwyr y byd.

Arweiniodd penboethni Iago II. i chwyldroad yn y deyrnas, ac yn y fl. 1688 glaniodd William, Tywysog Orange, yn Torbay.

"DEDDF GODDEFIAD."

Yr oedd esgyniad William III., yn ddechreuad cyfnod newydd. Un o'r cyfreithiau cyntaf a basiwyd ydoedd Deddf Goddefiad (Toleration Act). Drwy ddarpariaeth yr act hon, cafodd egwyddor Anghydffurfiaeth ei chydnabod ar ddeddf-lyfrau Prydain. Nid ydoedd ond Goddefiad, ond yr oedd hyny'n gydnabyddiaeth o hawliau crefydd rydd a dilyfeithair i fodoli, a hyny dan nawdd ac amddiffyn cyfraith y tir. Nid ydoedd, ac nid ydyw Deddf Goddefiad, yn rhoddi safle gydbwys i Anghydffurfiaeth ag a roddir i'r Eglwys Sefydledig, ond yr ydoedd yn rhag-redegydd i ddiwrnod claer rhyddid a chydraddoldeb. Nid oedd dyddiau erlid a gormes ar ben. Gwelwyd yr ysbryd hagr hwnw ar waith yn nglŷn â'r diwygiad crefyddol yn Nghymru. Cafodd Howell Harris, Daniel Rowland, Peter Williams, &c., brofi nerth rhagfarn, cynddaredd, a chreu-