Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III.


Cydchwyfiwn y faner yn entrych y nen,
Daw llwyddiant i wasgar ei wenau,
Mae cain dduwies addysg yn dyrchu ei phen,
A sobrwydd yn sychu ei dagrau;
Hen gestyll trueni ddymchwelir i gyd,
Daw purdeb a moes i flodeuo,
Ac ar ein mynyddau drwy oesau y byd,
Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio!