Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ps. 30:—
Am enyd fechan saif ei ddig,
O gael ei fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain sydd,
Y boreu ddydd daw iechyd.

Ps. 37—
Cred ynddo ef, fe'th ddwg i'r lan,
Myn allan dy gyfiawnder:
Mor oleu a'r haul ar haner dydd
Fel hyny bydd d'eglurder.

Ps. 43:—
O gyr dy oleu, moes dy wir,
Ac felly t'wysir finnau;
Arweiniant fi i'th breswylfeydd,
I'th fynydd ac i'th demlau.

Ps. 48:—
Ewch, ewch oddiamgylch Seion sail,
A'i thyrau adail rhifweh:
Ei chadarn fur, a'i phlasau draw,

I'r oes a ddaw mynegwch.


Ps. 103 :—
Os pell yw'r dwyrain oleu hin
Oddiwrth orllewin fachlud:
Cyn belled ein holl bechod llym,
Oddiwrthym ef a'i symud.

Ps. 107—
Gwnaeth e'r ystorm yn dawel deg,
A'r tonau'n osteg gwastad:
Yn llawen, ddystaw d'oent i'r lan,
I'r man y bai'n dymuniad

Hawdd fuasai lluosogi emynau—cyffelyb—emynau eneiniedig, ac o ran perffeithrwydd eu saerniaeth yn gyffelyb i afalau aur mewn ymylwaith arian. Ond rhag y dichon ein bod yn ormod dan gyfaredd yr awdwr, yr ydym yn cilio i roddi lle i sylwadau beirniad pwyllog, dysgedig, ac un nas gellir ei gyhuddo i osod ei deimlad o flaen ei farn. Yr