Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Saeson yn gwahaniaethu rhwng yr artist a'r critic. Y mae Mr. Matthew Arnold yn fardd ac yn llenor; ond fel beirniad, yn benaf, y mae iddo enw ac anrhydedd yn y byd llenyddol. Nid wyf yn deall fod Mr. Ebenezer Prout yn awdwr cynyrchiol; ond fel beirniad cerddorol y mae yn awdurdod o'r radd uchaf. Nid yw athrylith, neu allu i gyfansoddi, yn sicrwydd o farn ar gyfansoddiad. Gwyddɔm am gyfansoddwyr dysglaer yn Nghymru, ac y mae yn rhaid dyweyd fod eu hanes fel beirniaid yn dadguddio llawer o anmherffeithrwydd a methiant.

Ond y mae yn bryd i ni droi at yr ochr gadarnhaol, a dyweyd hyd y gallwn beth ydyw barn. Beth yw ei "nod angen?" Yr elfen gyntaf a nodwn yw

GWYBODAETH.

Barnwr anghyfiawn, bob amser, ydyw y barnwr anwybodus. Y mae gwybodaeth yn angenrheidiol i farnu, fel y mae goleuni yn angenrheidiol i weled. Nid ydys yn gosod y dall yn feirniad ar liwiau, na'r byddar ar gerddoriaeth; ac eithaf ffolineb fyddai gosod Anwybodaeth ymysg y barnwyr. Ac eto felly y mae yn aml ymysg dynion. "Wn i fawr am y pwnc-ond dyna 'marn i." Proffesa pobl feddu barn ar wleidyddiaeth, er nad ydynt erioed wedi rhoddi awr i astudio ei hegwyddorion. Ond y mae gwir farn yn seiliedig ar wir wybodaeth. Ni raid i ddyn fod yn hollwybodol i farnu, ac eto y mae gwerth ei farn yn dibynu i raddau mawr ar led a dyfnder ei wybodaeth.. Credwn mai yn yr ystyr hwn y mae deall llinellau adnabyddus Pope:

A little learning is a dangerous thing,
Drink deep, or taste not, the Pierian spring.

Ychydig ddysg-peryglus i ti yw,
Dwfn ŷf, neu paid archwaethu'r dyfroedd byw.