Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diffyg ymhob man—yn y nefoedd uchod ac yn y ddaear isod. Gwell yw y llygad noeth na dim cyfrwng o'r fath. Ac y mae yn rhaid wrth awyrgylch glir i farnu yn deg. Mae yn wir fod niwl a thywyllwch yn fantais i esgyn yn marn rhyw ddosbarth. Er engraifft, os bydd y bregeth yn hollol glir a dealladwy, creda y bobl hyn mai un syml a chyffredin ydyw; ond os bydd digon o'r tryblith ynddi, y mae yn ddofn a galluog. Camgymerir llwydni y dwfr am ei ddyfnder, a gwelir pethau yn fwy nag ydynt mewn gwirionedd am eu bod yn orchuddiedig gan niwl. Y mae yr eglurdeb hwn yn ein cynorthwyo i wahaniaethu rhwng y gwirioneddol a'r ymddangosiadol. "Na fernwch wrth y golwg," ebai y Dysgawdwr Dwyfol, "eithr bernwch farn gyfiawn." Mae y golwg, yr ymddangosiad, yn dra thwyllodrus. "Things are not what they seem." Anfonwyd cyfansoddiad, un tro, i Eben Fardd mewn amlen sidan, ac wedi ei addurno âg aur lythyrenau. Pe buasai y beirniad yn cymeryd yr ymddangosiadol yn safon i farnu, hwnw a gawsai y wobr. Ond nid oedd yr addurniadau yn pwyso dim yn nghlorian ddiwyrni y bardd o Glynnog. Dan ddylanwad yr hudoliaeth hwn y mae pobl yn camgymeryd swn am synwyr, llithrigrwydd parabliad am hyawdledd, a geiriau anghyf iaith am ddysg. Mewn trefn i feddu syniadau clir, ac felly i farnu yn deg, rhaid i wyneb yr enaid fod yn gyfeiriedig at y goleuni.

DIFRIFWCH.

Y mae hefyd eisieu Difrifwch. Nis gellir barn o feddwl ysgafn ac arwynebol. Mae y clown yn burion yn ei le, ond ni fuasem yn caru ei weled yn eistedd ar y fainc farnol. Teimlem yr ieuad yn rhy anghymharus i'w oddef. Mae sobrwydd yn eisiau at y fath orchwyl. Y mae as sober as a judge yn ymadrodd cyffredin, ac y mae mwy o wirionedd