Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/76

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy nodweddiadol o honi. Cyfuna arafwch a nerth. Mewn awr o ddrwg-dymher yr ysgrifenodd Byron y frawddeg: "Critics are all ready made." Y mae awdurdod uwch a mwy diweddar wedi cywiro yr haeriad hwn. Fe ddywed Mark Pattison nad oes un gorchwyl sydd yn gofyn prentisiaeth mor faith â'r alwedigaeth o feirniad mewn unrhyw gangen o wybodaeth. Ac y mae y tri pheth hynpwyll, difrifwch, ac eglurder-yn cyfansoddi cydbwysedd, y glorian anweledig hono yn y meddwl sydd yn profi pob ffaith a syniad a osodir ynddi.

Yr ydym, bellach, wedi braslunio y pedair elfen a ystyriwn yn anhebgorol i ffurfio yr hyn a elwir yn farn,sef gwybodaeth o'r pynciau yr amcenir ffurfio barn am danynt, cydymdeimlad â'r cyfryw, penderfyniad yn yr ysbryd, a chydbwysedd yn y meddwl. Yn y wedd hon yr ydym yn deall y rhan olaf o'r dywediad-mai "rhydd i bawb ei farn."