Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.,
SAFLE GYMDEITHASOL.

YR ydym yn credu fod y rhyddid hwn yn eiddo i ddyn fel dyn, a hyny, yn un peth, annibynol ar safle gymdeithasol. Yr hyn sydd mewn dyn sydd yn ei gymhwyso i farnu, ac nid yr hyn sydd ganddo. Mae yn canlyn nad oes un dosbarth mewn cymdeithas wedi eu hordeinio i farnu dros y gweddill. Mae hawliau barn bersonol yn ymestyn o'r uchaf hyd yr isaf. Wrth gwrs, byddai yn ynfydrwydd dyweyd fod gan ddyn cyffredin gystal barn a'r dysgedig ar lawer o bethau. Ond mewn perthynas i'r materion hyny sydd yn dal cysylltiad â dyn fel dyn, nid yw rhyddid barn yn cydnabod terfynau dosbarth o gwbl. Ac un rheswm amlwg fod y llïaws heb allu dringo llawer hyd raddfa barn ydyw fod agoriad gwybodaeth wedi ei gadw oddiwrthynt am lawer oes. Gosodai mawrion byd eu hunain yn farnwyr ar ryddid y rhai oedd yn digwydd bod yn israddol iddynt o ran eu hamgylchiadau. "Y bobl hyn - melldigedig ydynt," oedd iaith y Phariseaid yn nyddiau yr Iachawdwr. A dyma gnewyllyn brwydrau rhyddid ymhob oes-dosbarth yn ceisio gorfaelu yr hyn sydd yn hawlfraint greadigol i ddyn fel y mae yn dwyn delw Duw. I'w Grewr yn unig y mae dyn yn gyfrifol am ei farn. Nid oes gan neb hawl i arglwyddiaethu ar gydwybod ond yr Hwn sydd yn Arglwydd arglwyddi, a Brenhin brenhinoedd. Dyma un o'r pethau penaf sydd yn cyfansoddi mawredd dyn: y mae yn fod rhydd ymhob cylch i ffurfio ac i feddu barn. Mae amddifadu y tlotaf yn y tir o'r rhyddid hwn yn gysegryspeiliad. Gall dyn fod yn dlawd, ond pe heb le i roddi