Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—rhyddid barn. Ond y mae i bob gwir ryddid ei derfynau, neu ei ddeddfau priodol, ac yr ydym yn credu hyny am ryddid barn. Y mae deffinio y terfynau hyn lawer pryd yn orchwyl anhawdd, ac yn aros yn gwestiwn agored hyd y dydd hwn.

YR "ORACL."

Ond nodwn ddau derfyn sydd eithaf amlwg:—Nid ydyw dyn i osod ei farn ei hun yn safon i eraill. "Rhydd i bawb ei farn." Gall barn y naill fod o wasanaeth i'r llall, ond ni ddylid ei gosod i fyny fel safon. Fe ddywedir am ambell i awdwr ei fod yn safon mewn chwaeth, neu mewn arddull; ond anfynych y sonir am ddyn fel safon mewn barn. Mae yn wir fod y gair judicious wedi ei gysylltu yn anwahanol â Hooker, awdwr yr Ecclesiastical Polity. Cysylltir dysg â Dr. Owen, cyfoeth arddull â John Howe; ond y "judicious Hooker" a ddywedir yn wastad. Eto y mae dynion yn gwahaniaethu oddiwrth Hooker. Dengys hyny nad ydyw yn safon derfynol, ac mae yn ddiau nad ydoedd yn ystyried ei hun felly. Safon barn ydyw gwirionedd ac egwyddor, ac y mae y rhai hyn yn bod yn annibynol ar farnau personol. Tra y bydd dyn yn feidrol, a gwirionedd, fel ei Awdwr, yn anfeidrol, nis gellir disgwyl unffurfiaeth mewn barn. Gan hyny yr ydym yn boddloni ar barchu barnau ein gilydd, ond ni fynem droi yn eilunaddolwyr. Dylai dyn ymladd dros ei farn, os bydd raid; ond ymgadwed rhag gwneyd ei hun yn oracl. Mae dyddiau y cyfryw wedi eu rhifo. Gwrthddrych tosturi i bob dyn call ydyw y cymeriad a ddesgrifir gan Shakespeare yn y Merchant of Venice::—

Dywedaf it', Antonio,
Dy garu'r wyf, a'm serch lefara hyn.—
Mae math o bobl i'w cael, a'u gwedd bob pryd
Yn sobr, difrifol, fel y llonydd lyn.