Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn beth dibwys na byrbwyll ar unrhyw amgylchiad. Y mae barnau wedi cael eu cymharu i oriaduron. Nid oes dwy oriawr yn hollol yr un fath, ac eto y mae pawb, meddir, yn coelio ei oriawr ei hun. Yr un modd mewn perthynas i farnau a golygiadau. Ond gyda'r watch y mae dynion call yn myned â hi yn awr ac eilwaith i'w gosod yr un fath ag amser Greenwich, neu yn hytrach ag awrlais yr haul. Y mae eisiau gweithredu yr un fath gyda barn bersonol. Dylid ei dwyn yn fynych i "wyneb haul, llygad goleuni "-goleuni rheswm a goleuni ffeithiau. Y mae yr haul hwn yn codi yn uwch i'r làn o hyd. Un rheswm a roddid dros gael cyfieithiad diwygiedig o'r Beibl ydoedd fod llawysgrifau wedi eu darganfod oeddynt yn taflu goleuni pwysig ar y testun gwreiddiol. Ac fe ellir dyweyd fod rheswm tebyg yn bod dros i ddynion revisio eu barnau a'u syniadau. Dygir ffeithiau newyddion i oleuni, ac os na chydsaif y farn flaenorol â'r ffaith bresennol-dylid ei newid.

Y LLYS AGORED.

Llys agored ydyw llys barn bersonol i fod. Nid oes un dystiolaeth i gael ei gwrthod; ac, o'r tu arall, nid oes un syniad i gael ei gollfarnu cyn cael true bill yn ei erbyn. Ond y mae egwyddorion y llys yn aros yn ddigyfnewid. Yr un yw Gwirionedd ymhob oes. Y mae yn werth i ni gloddio a myned yn ddwfn i osod ein barn bersonol ar seiliau cedyrn egwyddorion, ac yna ni raid ofni unrhyw chwyldroad. Bydd pob cyfnewidiad yr awn drwyddo yn cydredeg â'r eiddo natur ei hun. Cyfnewid y byddwn fel y mae bywyd yn gwneyd,-o'r anmherffaith i'r perffaith, o'r rhan i'r oll, o'r wawr i'r dydd. Yn yr ystyr hwn gellir defnyddio geiriau prydferth y Salmydd, "Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd!"