Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O'r tu arall y mae yr ysbryd newydd yn ceryddu y rhagfarn a'r anwybodaeth fu yn arwain dynion i wenieithio lle y dylesid dysgu, ac i waeddi "Perffeithrwydd" uwchben yr hyn oedd yn eglur brofi y diffyg ohono. Ond y mae gwawr cyfnod gwell wedi tori. Yr ydym yn gallu goddef ein harweinwyr gyfeirio at ddiffygion ein gwlad a'n cenedl. Y mae hynny'n arwydd er daioni. Wrth gwrs,

nid edliw beiau ydyw yr amcan a'r nod, ond credwn fod yn rhaid cychwyn yn y modd hwn cyn y ceir sail gadarn a diogel i Gymru Fydd.

Y mae rhai o'r diffygion hyn yn cael eu dannod ini gan ein cym'dogion Seisnig. Dywedai Robert Burns mai rhodd y duwiau ydyw y ddawn i weled ein hunain megys y mae eraill yn ein gweled. Ond dylid cydnabod fod llawer yn dibynu ar ansawdd llygad a meddwl y sawl a fyddo yn edrych arnom. Y mae lliw-ddallineb yn bod mewn mwy nac un ystyr. Ni a wyddom fod rhai o'r Saeson wedi bod yn haeru am danom bethau chwerw,diffyg parch i eirwiredd, a diffyg gonestrwydd ymarferol. Y mae y rhai'n yn gwynion trymion, a chredwn nad ydynt wedi eu profi. Yr un pryd, y ffordd i'w gwrthbrofi ydyw dyblu diwydrwydd yn y rhinweddau a'u cyffelyb. Hyderwn fod y dydd yn agos pan fo yr enw Cymro yn gyfystyr â geirwiredd a gonestrwydd, ac od oes un rhinwedd arall heb ei feithrin yn ddyladwy,-meddyliwn am y pethau hyn.

Ond y mae un diffyg ag yr ydym ni ein hunain yn ymwybodol ohono, ac yn dioddef yn ddwys o'i herwydd. Adwaenir ef fel

DIFFYG DYFALBARHAD.

Yr ydym, fel cenedl, yn hynod frwdfrydig dros amser, ond pan ddel gorthrymder neu erlid, y mae sel llaweroedd yn oeri ac yn diffodd. Gynifer o bethau gawsant eu cychwyn