Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/87

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghymru—eu cychwyn yn nghanol banllefau croch, ond y mae eu bywgraffiad yn cyd-daro ag eiddo y cicaion,—"Noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu." Yn y dyddiau diweddaf hyn fe gydnabyddir fod genym athrylith, ac mai nid y lleiaf o'r holl hadau ydyw athrylith y Celt. Ond, yn nglŷn â'r gallu hwnw, dywedir ein bod yn amddifad o'r gallu i bara, i lynu, ac i orchfygu. Y mae rhwystrau yn ein gwan-galoni. Nid ydym yn meithrin yr ystyfnigrwydd—y doggedness hwnw sydd yn nodweddu y Teutoniaid. Dyma guddiad cryfder y gwŷr hynny sydd wedi gwneuthur iddynt enw yn mysg y cedyrn. Rhyfedd oedd y darganfyddiadau a wnaeth Darwin yn nglŷn â chreaduriaid ac ymlusgiaid, ond ei brif arbenigrwydd fel gwyddonydd ydoedd ei allu i ddyfal-bara,―i roddi pobpeth dan archwiliad trwyadl. Nid oedd yn cymeryd dim yn ganiataol, os gallai drwy lafur a sylwadaeth bersonol roddi cyfrif am dano.

Lluosog ydyw dyfeisiau Edison, ond y mae hanes y gwr hwnw yn tystio mai nid gweledigaethau crebwyll bywiog ydoedd y gwahanol offerynau celfydd y mae efe wedi eu troi allan i'r byd. Dywed efe ei hun iddo fod am fisoedd yn perffeithio un o'i beirianau i swnio y llythyren S. Yr oedd y dasg yn un anhawdd, ond arhosodd yr athraw gyda'r disgybl nes y dysgodd y wers. A dyna un o'r gwersi pwysicaf sydd genym ninnau i'w dysgu yn y blynyddau hyn: glynu wrth ein hamcanion cenedlaethol nes dwyn barn i fuddugoliaeth. Dywedodd John Morley, ar ryw achlysur, ei fod yn cymeryd ugain mlynedd i ddrychfeddwl newydd wneyd ei ffordd drwy Dy y Cyffredin. Y mae genym ninnau yn Nghymru amryw ddrychfeddyliau gwiwdeg sydd wedi enill ein bryd, ond a fedrwn ni lynu wrthynt am ugain mlynedd, neu ychwaneg, os bydd raid, heb laesu dwylaw?