Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/89

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hyn sydd o'u hamgylch, ond yn hytrach oblegid yr hyn sydd ynddynt. Yr ydym wedi bod ar lawer adeg yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau gau. Nid oedd yr eilun yn deilwng o'r edmygedd a wastreffid arno. Yn mysg yr eilunod hyn yr oedd cyfoeth a safle gymdeithasol. Cenedl orchfygedig a fuom,- cenedl dlawd, ac yr oedd presenoldeb y bendefigaeth, yn ystyr ffasiynol y gair, yn rheibio ein golygon. Nid ydyw Mammon-addoliaeth, a chysegredigaeth gwr o "waed" neillduol, wedi darfod o'n gwlad, ond y mae yn rhywle ar y goriwaered.

Eilun arall y cawsom ein hud-ddenu ganddo ar lawer adeg, ydoedd athrylith a thalent wedi ei hysgaru oddiwrth rinwedd. Bu rhai o'n harweinwyr llenyddol a gwladol yn cadw eu safle yn unig yn ngrym eu galluoedd a'u doniau. Yr oedd y rhai hyny yn cuddio lluaws o bechodau. Ond erbyn hyn nid ydyw swyn-gyfaredd talent yn ddigonol heb fod yn ei pherchen warogaeth i gymeriad moesol. Dywedir fod gan y Rhufeiniaid ddwy deml,-un yn gysegredig i rinwedd, y llall i enwogrwydd. Ac yr oeddynt wedi eu hadeiladu yn y fath fodd fel nad oes yn bosibl mynd i deml clod ond drwy deml rhinwedd. Y mae ein cenedl ninnau, bellach, yn dod i gredu yr un gwirionedd. Y mae ysbryd rhyddid—ysbryd Cymru Fydd—yn gwylio pyrth temlenwogrwydd, ac nid yw yn caniatau mynediad i mewn ond i'r sawl fyddo yn dod yno drwy deml rhinwedd, ar sail cymeriad glan a difefl. Y drwydded i fywyd cyhoeddus yn y dyfodol fydd,—gallu a charictor. Dyma y safon,—yr unig wir safon, i bob swydd, wladol, lenyddol, a chrefyddol o fewn y tir.

Credwn mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg honno pan fyddo ei harweinwyr, mewn meddwl a moes, yn gynyrch naturiol y wlad ei hun. Y mae hyn yn cael ei awgrymu gan un o'r proffwydi Hebreig. "Canys