Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd y lluoedd a ymwelodd a'i braidd, tŷ Judah, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel." Beth fydd y canlyniad ? "Y gongl a ddaw allan o hono, yr hoel o hono, y bwa rhyfel o hono. A byddant fel cawri yn sathru eu gelynion yn y rhyfel; a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt" (Zechariah x. 4, 5). Yr ystyr, meddir, ydyw, fod arweinwyr y genedl i godi ohoni ei hun, o ddyfnderoedd ei hysbryd a'i gwaith. Y "gongl' conglfaen yr adeilad, dyna y dosbarth blaenaf. Dynion a phwysau yn eu barn ac yn eu bywyd: cymeriadau wedi eu cyfaddasu i fod yn feini bywiol yn yr adeilad gymdeithasol,-"Y gongl a ddaw allan o hono." Yr "hoel" hefyd. Dynion a'u hargyhoeddiadau fel hoel mewn lle sicr. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa.' "Yr hoel a ddaw allan o hono." Yr un modd am y "bwa rhyfel." Yr ydym wedi bod yn sôn yn y rhannau blaenaf o'r llyfr hwn am frwydrau y gorphenol,—brwydrau rhyddid, a gwroniaid y ffydd. Ond na thybier fod cyfnod y brwydro wedi myn'd trosodd mewn llawer cyfeiriad, nid ydyw ond prin wedi dechreu. Y mae arnom anghen y sawl sydd yn berchen bwa, yn medru anelu gyda chywirdeb William Tell. Diolchgar ydym am gynorthwy gwŷr o fysg cenedloedd eraill i ymladd ein rhyfeloedd, ac i ddadleu drosom, ond yr ydym yn disgwyl yn y dyfodol wrth y gatrawd Gymreig, nid i ddefnyddio y fagnel a'r cledd, ond yr "arfau nad ydynt gnawdol," i godi'r hen wlad. Ac yn olaf a phenaf, y "rheolwr a ddaw allan o hono." Yr ydym yn edrych ymlaen yn awyddus at yr adeg pan y bydd Cymru, yn ei phethau hanfodol, yn cael ei rheoli gan Gymry pan y bydd ein llywodraethwyr yn ddadblygiad teg o fywyd ac adnoddau ein cenedl. Yr ydym yn disgwyl hyn am ein bod yn credu gwirionedd y broffwydoliaeth