Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/91

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hebreig, mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg pan y byddo ei harweinwyr yn gynyrchion naturiol, deallol, a moesol y wlad ei hun.

Ac i'r amcan hwn, y mae ysbryd Rhyddid yn ysbryd sydd a'i fryd ar roddi chwareu teg i bob dosbarth a gradd, a mwy na hyny, y mae'n awyddus i roddi y fantais oreu i bawb i lanw y cylch y mae ei alluoedd a'i ymroddiad yn deilwng o hono. Yr amcan mawr ydyw cynyrchu cymeriadau addas i arwain cenedl, a hyny ar hyd llwybrau uniondeb.

YN EISIAU:-DYNION.

Nid ydyw o gymaint pwys o b'le y byddant wedi dod.. Y mae y bwthyn a'r palas ar yr un tir yn hollol. Yr hyn sydd bwysig ydyw eu cael, ac wedi eu cael, gwneyd defnydd dyladwy ohonynt.

yn

Rhaid eu cael. Rhoddion ydynt, a'r rhoddion penaf sydd yn dod oddiwrth Dad yr Ysbrydoedd i'r byd hwn. Nis gellir eu llunio wrth reol: nis gellir eu harchebu fel nwyddau masnachol. Y maent fel yr hâd yn y ddaear tyfu, ac yn egino, y modd nis gwyddom ni,—yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. Ond y mae ar ein llaw ni ofalu am yr egin grawn, rhag i'r gelyn-ddyn ei ddinystrio, a rhag i'r un bwystfil ei fathru dan draed.

"God give us men. A time like this demands
Strong minds, great hearts, true faith and ready hands.
Men whom the lust of office does not kill,
Men whom the spoils of office cannot buy,
Men who possess opinions and a will,—
Men who have honour,-men who will not lie."