Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWILYM CAWRDAF.
PENNOD I.
"AWENAWG WR O WYNEDD."

PENAWD nifer o ysgrifau sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ydyw—"Enwogion Anghofiedig." Ofnwn fod yn rhaid i ni osod enw Gwilym Cawrdaf ar y rhestr. Hynod mor ebrwydd y mae plant dynion yn llwyddo i wneyd hyn! Priodol y gelwir y bedd yn "dir anghof." Unwaith yr elo dyn oddiar y chwareufwrdd, y mae eraill yn cymeryd ei le, ac yntau a anghofir. Eben Fardd yn ei henaint a ddywedai

Daw eraill feirdd awdurol
Yn fuan, fuan ar f'ol.

A'r beirdd "awdurol" hyny sydd yn cael sylw am dro, nes y daw actors newyddion ar y llwyfan. Mae anfarwoldeb yn air a ddefnyddir yn ddibrin am feirdd a llenorion, ond dylid cofio fod afon Anghof yn para i redeg rhwng ein byd ni a'r distaw dir lle yr arweinir dynion yn mhob oes. Ond nid yw hyny yn un rheswm dros beidio ymdrechu i gadw coffadwriaeth athrylith yn fytholwyrdd, a rhoddi i awdwyr y gorphenol eu lle cyfreithlawn yn ein llenyddiaeth. Dylem gofio Cymru Fu yn ei hawdwyr a'i thrysorau, tra yn mawrygu Cymru Sydd, ac yn disgwyl pethau gwych am Cymru Fydd. Hyn sydd genym mewn golwg wrth alw sylw at Gwilym Cawrdaf. Y mae wedi ei ddweyd am fardd Seisnig, fod mwy o ganmawl nag sydd o