Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/96

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddarllen arno. Onid yw yr un peth yn wir am Cawrdaf? Dyfynir rhai o'i linellau mor fynych, ond odid, a dim yn yr iaith, ond credwn fod naw o bob deg yn gwneyd hyny heb wybod ond ychydig am y cyfansoddiadau y mae y cyfryw linellau yn rhan o honynt. Ni ddylai y pethau hyn fod.. Gobeithiwn allu dangos fod Cawrdaf yn un o awdwyr clasurol ein hiaith, ac am hyny yn haeddu sylw pob un sydd yn ymgeisio am y cymeriad o lenor Cymreig.

Yn gyntaf oll, dodwn ger bron y darllenydd rai o brif ffeithiau ei fywyd. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tyddyn Sion, Abererch, ger Pwllheli, Hydref 9, 1795—ychydig dros gan' mlynedd yn ol. Enwau ei rieni oedd Ellis a Catherine Jones, y rhai a symudasant i'r ardal hono o gyffiniau Bont-ddu, gerllaw Dolgellau. Bedyddiwyd y plentyn yn Eglwys Cawrdaf-yr ydym yn adrodd y ffaith er dangos o ba le y tarddodd ei ffugenw. Pan yn 13 mlwydd oed rhwymwyd ef yn brentis o argraffydd gyda Mr. Richard Jones, cefnder iddo, yn nhref Dolgellau. Yn y swyddfa hono yr argreffid gweithiau Dafydd Ionawr, a Dafydd Ddu, a darfu i ysbrydiaeth y gweithiau rhagorol hyny enyn y ddawn farddonol yn y llanc oedd yn eu cysodi̟ Tua'r un adeg dangosodd duedd gref at dynu darluniau, a daeth yn fuan yn artist gwych heb gymorth un athraw— prawf fod y dalent ynddo yn gynhenid. Ar derfyn ei brentisiaeth symudodd i Gaernarfon, a bu am ysbaid yn swyddfa Mr. L. E. Jones, yr hwn hefyd oedd gefnder iddo. Yn y swyddfa cyhoeddid cyfres o gyfrolau dan yr enw “Dyddanwch Teuluaidd "—yn cynwys gweithiau Goronwy Owain, Lewys Morus, ac ereill. Golygid yr oll gan Dafydd Ddu Eryri. Deallodd yr hen fardd y gellid gwneyd awenydd o'r llanc oedd yn y swyddfa; taenodd ei aden yn dyner drosto, a bu iddo yn athraw barddonol. Gwnaeth Dafydd Ddu lawer yn y ffordd hon. Efe oedd sefydlydd a