Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/99

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.
"Y MEUDWY."

Y CYFANSODDIAD rhyddiaethol o eiddo Gwilym Cawrdaf sydd wedi tynu mwyaf o sylw ydyw y "Bardd, neu y Meudwy Cymreig, yn cynwys teithiau difyr ac addysgiadol y Bardd gyda Rhagluniaeth." Derbyniodd y llyfr lawer o ganmoliaeth, a hyny gan wŷr o safle Caledfryn, ond ofnwn mai ychydig o ddarllen sydd arno yn ein dyddiau ni—dyddiau y penny dreadfuls a'r tit-bits. Ond ein barn onest ydyw fod chwedl dlos, chwaethus, Cawrdaf, yn werth tunell o'r chwedlau sensational a ddarllenir yn awr.

Amcan proffesedig yr ystori ydyw taflu goleuni ar rai o droion rhyfedd Rhagluniaeth yn eu perthynas a gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, gan ddangos yr effeithiau amrywiol sydd yn dilyn ymweliadau llwyddiant neu adfyd y naill ddyn rhagor y llall. Arwr yr hanes ydyw y Meudwy, neu y bardd, fel y gelwir ef fynychaf—efe sydd yn adrodd ei helynt i awdwr y chwedl, ac efe ar y pryd yn ymwelydd â bwth y bardd.

Cychwyna yr awdwr gyda desgrifiad meistrolgar o longddrylliad ar lanau Cymru. Yr oedd efe, a llu eraill, yn dychwelyd i'r Hen Wlad, ond pan yn ngolwg ei bryniau cododd yn dymestl o'r fath ffyrnicaf, a hyrddiwyd y llestr yn erbyn traeth creigiog a pheryglus. Dyma fel y desgrifir eu sefyllfa: "Rhyfeddol oedd y gwahaniaeth a wnaethai un dydd ar y llong a'r dynion oedd arni! Y boreu ddoe yn llestr dlos, dal-gref, mor hardd, a galluog ag un yn Mor y Werydd—yn ei llawn hwyliau, a'i hwylbreni