Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/100

Gwirwyd y dudalen hon

weled y cleddyf yn lladd ei wŷr, ac na wyddai pwy a'u lladdai. Gwisgai Caswallon len hud amdano, ac ni welai neb ef yn lladd y gwŷr, dim ond gweled ei gleddyf yn unig. Ni fynnai Caswallon ei ladd ef, canys ei nai fab ei gefnder oedd." Charadog oedd y trydydd dyn a dorrodd ei galon o dristwch."

Am Bendaran Dyfed a oedd yn was ieuanc gyda'r seithwyr," ebe hwy, "dihangodd ef i'r coed."