Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/102

Gwirwyd y dudalen hon

deuddrws oedd yn agored, a'r drws a wynebai Gernyw yng nghaead. Dyma eu nefoedd hwy.

"Wel di," ebe Manawyddan, "dacw'r drws na ddylem ni ei agor."

Buont yno y nos honno yn ddiwall ac yn ddifyr arnynt. Yr oeddynt uwchben eu digon,―bwyd a diod hyd ormodedd. Ac ni allent gofio am unrhyw angen nac am unrhyw alar yn y byd.

Ac yno y treuliasant y pedwar ugain mlynedd heb wybod iddynt erioed dreulio tymor cyn ddifyrred â hwnnw. Ni flinent fwy ar gwmni ei gilydd ar ddiwedd y tymor na phan ddaethant yno. Ac ni flinent fwy ar gwmni pen Bendigaid Fran, na phan oedd Bendigaid Fran ei hun gyda hwy. Galwyd y tymor neu'r ysbaid y buont yng nghwmni pen Bendigaid Fran