Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/26

Gwirwyd y dudalen hon

Yr hen dduwiau a duwiesau.

DULL arall o wybod am yr hen Gymry yw gwrando ar y traddodiadau am dywysogion Cymry,-y traddodiadau sy'n dywedyd amdanynt yn medru gwneuthur pethau na fedr yr un dyn ar wyneb y ddaear eu gwneuthur heddyw. Medrai rhai ohonynt luchio cerryg sydd gymaint à thai mawr. Medrent ddiflannu pan fynnent, ac ymddangos pan fynnent, a gwneuthur pob math ar wrhydri rhyfeddach na'i gilydd. Pan glywoch y traddodiadau hyn,-am ddynion yn medru gwneuthur pethau na fedr yr un dyn eu gwneuthur,-gellwch fod yn dawel nad am ddynion y sonnir, ond am dduwiau. Hen dduwiau a duwiesau'r Cymry cyn iddynt erioed glywed am Iesu