Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

Grist yw'r tywysogion a'r tywysogesau rhyfedd hyn. Wedi derbyn Iesu Grist trodd y Cymry eu cefnau ar yr hen dduwiau, ond wedi'r cwbl yr oeddynt yn hoff iawn ohonynt. Nid oeddynt yn barod i'w gadael yn hollol. Wrth adrodd y storiau amdanynt o oes i oes, ac fel yr âi'r naill genhedlaeth ar ol y llall ymhellach oddiwrth y cyfnod yr addolid hwy fel duwiau a duwiesau ynddo, âi eu nodweddion fel bodau dwyfol ar goll o dipyni beth. O'r diwedd daethant i'r ffurfiau y gwyddom ni amdanynt, yn hanner meibion a merched, a hanner duwiau a duwiesau. Y mae gennym ni amryw storïau am y duwiau a'r duwiesau hyn. Ac os ydych am wybod rhywbeth am yr hen Gymry, rhaid gwybod rhywbeth am y bodau a addolent.

Canys ni ellir deall cymeriad unrhyw bobl heb ddeall rhywbeth am y duwiau a