Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/30

Gwirwyd y dudalen hon

O ble y daeth Branwen.

CREDID am dduwiau a duwiesau'r hen fyd eu bod yn rhodio'r ddaear fel dynion, ac ni wyddech pan welech rywun yn dyfod i'ch cyfarfod yn y pellter, pa un ai dyn ynteu duw fyddai. A hwyrach pan ddeuech i'w ymyl y diflannai o'ch golwg fel niwl. Trigai'r duwiau yn y cymylau, mewn llwyni coed, mewn creigiau, mewn afonydd, ac ymhobman bron. Ac yr oedd i bob un ei waith. Duw'r glaw fyddai un, ac arno ef y gweddïai pobl, ac iddo ef yr aberthent pan fyddai arnynt eisiau glaw. Duw'r heulwen fyddai'r llall, a chredid mai ef a roddai'r heulwen iddynt. Trigai rhyw dduw neu dduwies yn yr afon—duwies gan amlaf—a hi a lywodraethai'r dwfr.