Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/31

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd duw neu dduwies yn llywodraethu cariad a phrydferthwch hefyd. Dyna'r dduwies Gwener, duwies cariad oedd hi.

Hen dduwiau a duwiesau Groeg a Rhufain yw'r rhai y gŵyr y byd fwyaf amdanynt. Cododd arlunwyr a cherflunwyr a beirdd mawr i baentio eu lluniau yn ôl fel y meddylient hwy eu bod, ac i gerfio lluniau ohonynt mewn cerryg marmor, ac i ganu eu clodydd mewn barddoniaeth. Y mae'r lluniau, a'r cerfluniau, a'r farddoniaeth hynny ar gael heddyw, ymysg lluniau a cherfluniau a barddoniaeth ardderchocaf y byd. Cewch weld rhai ohonynt bron ymhob tref fawr, ac y maent yn werth i chwi fynd ymhell i'w gweld. Buasai'r sôn am yr hen dduwiau a'r duwiesau hyn wedi marw ers canrifoedd onibae am yr arlunwyr a'r cerflunwyr a'r