Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/32

Gwirwyd y dudalen hon

beirdd a'u hanfarwolodd. Ni chafodd hen dduwiau a hen dduwiesau Cymru mo'r fraint hon hyd yn hyn. Pwy a ŵyr nad oes yn eich mysg chwi ryw arlunydd a all baentio llun o Franwen a swyna'r byd, neu a gerfio lun ohoni mewn carreg, neu a gano farddoniaeth iddi a fydd mor ardderchog nes bod pobl o ieithoedd eraill yn dysgu Cymraeg er mwyn ei deall a'i mwynhau.

Ymysg hen dduwiesau Groeg yr oedd un o'r enw Aphrodité. Y mae llawer o baentio a cherfio lluniau ohoni wedi bod, yn ôl syniad dynion amdani. Y mae'r traddodiad amdani yn un tlws iawn. Dywedid gan y Rhufeinwyr mai'r un un â Gwener oedd hi. Duwies cariad a phrydferthwch ydoedd hi. Os byddai rhywun mewn cariad neu eisiau bod yn brydferth at Aphrodité yr âi. Nid yn