Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/33

Gwirwyd y dudalen hon

unig hi oedd y brydferthaf o'r duwiesau, ond medrai wneuthur pob un a'i haddolai hi hefyd yn brydferth. Ni dderbyniai unrhyw aberthau ond blodau a pheraroglau. Hi oedd duwies cariadon a mamau, a byddai llawer o addoli arni. O'r môr y daeth hi, y môr oedd ei mam, a ffurfiwyd hi o ewyn y don. Ac ni all neb a fyddo wedi ei ffurfio o beth mor brydferth ag ewyn y don lai na bod yn brydferth iawn ei hun.

Yr un a leinw'r un lle yn nhraddodiadau duwiau a duwiesau Cymru ag a wna Aphrodité yn nhraddodiadau Groeg yw Branwen. O'r môr y daeth hithau. Llŷr oedd enw ei thad, a duw'r môr oedd Llŷr. Ef a lywodraethai'r tonnau. Llŷr yn ymgynhyrfu oedd stormydd y môr, a Llŷr mewn tymer addfwyn oedd ei lonyddwch. Yr oedd i'r tywyllwch ei dduw,