Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/34

Gwirwyd y dudalen hon

ac i'r goleuni ei dduw, ac i'r awyr ei duw, ac i'r ddaear ei duw, a duwiesau'n wragedd iddynt oll. Brwydrau rhwng y duwiau a'r duwiesau hyn oedd achos holl helynt y byd. Un o'r rhai enwocaf o'r duwiau hyn oedd Llŷr, duw'r môr. Gelwir ef weithiau'n Llŷr Llediaith. Gwyddoch mai ystyr llediaith yw siarad un iaith mewn dull iaith arall. Pan glywch rywun yn siarad Cymraeg yn y fath fodd ag i chwi dybio mai Saesneg yw ei iaith briod, dyna lediaith. Ac awgryma galw Llŷr yn Llediaith ei fod yn dduw i ryw genedl arall cyn i ni ei arddel. Ac yr oedd yn dduw i'r Gwyddyl yn ogystal ag yn dduw i'r Cymry. A ddarllenasoch "King Lear," Shakespeare? Llŷr yw'r "Lear" hwnnw. Yr oedd tri theulu mawr o dduwiau i Ynys Brydain, a theulu Llŷr oedd y prif deulu o'r tri.