Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

Brodyr Branwen.

Y MAE a wnelo Bendigaid Fran ac Efnisien lawer iawn â'r stori, a hwyrach mai ceisio esbonio pwy oeddynt hwy yw'r peth goreu yn awr. Bydd hynny'n help i ddeall y stori. Dywedir mai brenin oedd Bran, tad Caradog, hen dywysog Cymru, ac mai ef a ddaeth â Christionogaeth i'n gwlad ni. Ond os Bran oedd enw tad Caradog, nid yr un un oedd â Bendigaid Fran. Hwyrach ei fod wedi ei enwi ar ei ôl, fel yr enwyd rhai ohonoch chwi ar ôl dynion mawr, ond wedi i mi adrodd stori Branwen i chwi, gwelwch ei bod yn amhosibl i Fran fod yn ddyn, oherwydd ni bu dyn erioed o'i faint nac yn medru gwneuthur y fath wrhydri.