Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

Y mae'n debycach mai duw a'i gymeriad fel ei enw ydoedd, yn debyg i fran neu gigfran, yn ymhyfrydu mewn tywallt gwaed. Dengys rhai pethau yn ei hanes mai dyna ydoedd,—duw gwlad y tywyllwch. Dengys pethau eraill mai duw beirdd a chantorion ydoedd, ac mai ato ef yr âi'r beirdd a'r cantorion pan fyddai arnynt eisiau help i wneuthur eu gwaith. Bu ymdrech yn ddiweddarach i'w wneuthur yn dduw anwylach a'i alw'n fendigaid, ond ofnaf mai ofer fu'r ymdrech honno.

Am Manawyddan, yr oedd ef yn dynerach duw. Ni synnwn pe gwelech mai'r duw a lywodraethai nefoedd yr hen Gymry oedd ef. O dan y môr yr oedd eu nefoedd. Ac fel duw eu nefoedd yr oedd Manawyddan yn feistr ar y crefftau gwerthfawr.