Tudalen:Branwen Ferch Llyr (Tegla).djvu/38

Gwirwyd y dudalen hon

Ond y casaf o blant y duwiau oedd Efnisien. Nid oes ond ef yn gas a chreulon yn yr holl stori. Sut y daeth ef i mewn? Nid oedd llawer o greulondeb a thywallt gwaed yn hanes yr hen dduwiau Cymreig. A gellwch fod yn dawel pan ddeloch ar draws un mai wedi dyfod i mewn i'r stori o rywle arall y mae. Os duw dieithr a ddaeth i mewn i'r stori'n ddiweddarach yw Efnisien, o ble y daeth? Y lle tebycaf yw cyfandir Ewrob dan ddylanwad y Daniaid. A ddarllenasoch mewn llyfrau hanes ddarfod i'r Daniaid ddyfod i'n gwlad ni unwaith? Pan ddaethant yr oeddynt yn sicr o fod wedi dyfod â hanes eu duwiau gyda hwy. Buont yn gyfeillion â'r Cymry un adeg, yn cyd-ymladd yn erbyn y Saeson, a hwyrach bod yr hen Gymry wedi hoffi rhai o'u duwiau yr adeg honno, ac yn eu mysg Efnisien. A fedrwch chwi ddyfod o hyd